Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae lleidr adnabyddus o'r Rhondda wedi cael ei garcharu a'i wahardd o restr hir o fanwerthwyr.
Gwnaeth Jamie Johnson, 42 oed o Donypandy, ddwyn gwerth miloedd o bunnoedd o eiddo o fanwerthwyr ledled cymoedd De Cymru dros gyfnod o ddau fis.
Gwnaeth Johnson ddwyn cynhyrchion fel alcohol, cig, cardiau crafu, golchydd pwysedd aer a hyd yn oed set o ddannedd Dracula o siopau cadwyn mawr a manwerthwyr annibynnol bach.
Byddai Johnson weithiau'n defnyddio technegau tynnu sylw i dwyllo gweithwyr siopau, a chyflawnodd 17 o achosion ar wahân o ddwyn yn ystod mis Awst a mis Medi 2024.
Ar 4 Hydref, ar ôl pledio'n euog i 17 o droseddau ar wahân, cafodd Johnson ei garcharu yn Llys Ynadon Merthyr Tudful am 26 wythnos.
Bu cais am Orchymyn Ymddygiad Troseddol i wahardd Jamie Johnson o bob siop yng Nghwm Cynon, Parc Manwerthu Cyfarthfa, a phob siop Boots, Tesco, Co-op a Farm Foods ledled Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful am gyfnod o dair blynedd, hefyd yn llwyddiannus.
Dywedodd Jon Abel, Cwnstabl yr Heddlu:
“Mae Jamie Johnson yn lleidr adnabyddus a deithiodd o gwm i gwm yn targedu siopau a chynhyrchion gwahanol y gallai eu gwerthu ymlaen.
“Nid yw ei droseddau'n rhai heb ddioddefwyr – gallant fod yn ddinistriol, yn enwedig i fanwerthwyr annibynnol bach, ac mae'r math hwn o drosedd yn atal buddsoddiad pwysig gan siopau cadwyn mwy, sy'n cael effaith ar gymunedau cyfan.
“Bydd y gorchymyn ymddygiad troseddol yn helpu i ddiogelu busnesau lleol rhag ei ffordd droseddol o fyw ac mae'r achos hwn yn dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael ag achosion o ddwyn o siopau a chefnogi'r diwydiant.”