Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Swyddogion yn Butetown a Grangetown, Caerdydd, wedi cael pwerau ychwanegol i atal cynulliadau, y defnydd o dân gwyllt ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig dros gyfnod Calan Gaeaf.
Mae'r gorchymyn yn fesur ataliol yn dilyn nifer o adroddiadau a gafwyd y mis hwn am bobl yn taflu tân gwyllt at aelodau o'r gymuned ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig.
Bydd gorchymyn gwasgaru 48 awr, a roddir o dan Adran 35 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, ar waith rhwng 6:00pm ddydd Iau 31 Hydref a 6:00pm ddydd Sadwrn 2 Tachwedd, 2024.
O dan Adran 35 o'r Ddeddf, gall swyddogion gyfarwyddo unrhyw un sy'n achosi, neu sy'n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod, i adael yr ardal fel y'i dangosir yn y map.
Bydd gan swyddogion hefyd y pŵer i atafaelu unrhyw eiddo y maent yn amau ei fod yn cael ei ddefnyddio i achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae'r gorchymyn yn fesur ataliol yn dilyn nifer o adroddiadau a gafwyd y mis hwn am bobl adnabyddus yn taflu tân gwyllt at aelodau o'r gymuned ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig.
Dywedodd yr Arolygydd Dros Dro Samantha Johnson o Heddlu De Cymru:
“Bydd y gorchymyn gwasgaru ar waith am y 48 awr nesaf fel mesur ataliol.
“Byddwch yn gweld mwy o swyddogion yn ardaloedd Butetown a Grangetown. Bydd swyddogion yn cymryd camau ar unwaith i orfodi'r pwerau ychwanegol a roddwyd iddynt er mwyn cadw'r gymuned yn ddiogel.
“Rydym yn annog rhieni a gwarcheidwaid i siarad â'u plant am beidio â chymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Sicrhewch hefyd eich bod yn gwybod â phwy y maent yn cymdeithasu, beth maent yn ei wneud a ble maent.”
Mae gan Heddlu De Cymru ddull gweithredu dim goddefgarwch mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a dim ond un enghraifft yw'r gorchymyn gwasgaru hwn o'r gwaith rydym yn ei wneud.
Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â ni.
Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am weithgarwch anghyfreithlon i gysylltu â ni.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.