Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddydd Gwener diwethaf fe wnaethon ni gynnal ein digwyddiad 'Ras yn Erbyn Casineb' yng nghanolfan hamdden Sobell yn #Aberdâr
Fel rhan o'r digwyddiad daeth oddeutu 100 o ysgolion cynradd ledled Merthyr a Rhondda Cynon Taf ynghyd i redeg mewn undod yn erbyn casineb. Nid ras oedd yn unig oedd hon – roedd yn ddigwyddiad a amlygodd bŵer cyfunol ein cymunedau.
Dywedodd yr Arolygydd Richard Gardiner: "Roedden ni'n falch o fod wedi trefnu'r digwyddiad cyntaf hwn 'Ras yn Erbyn Casineb' lle daeth ysgolion lleol a'r gymuned ynghyd i ddangos eu hymrwymiad i wrthsefyll casineb.
"Fe groesawon ni oddeutu 1,000 o blant i'r digwyddiad a hefyd eu hathrawon, rhieni ac aelodau o'u teulu. Nod y thema 'Ras yn Erbyn Casineb' oedd addysgu a chodi ymwybyddiaeth am driniaeth pawb yn ein cymuned, ni waeth beth fo'u hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran ac anabledd.
"Nid cyfres o rasys yn unig oedd y digwyddiad hwn - roedd yn gyfle i'r rhai a oedd yn cymryd rhan i redeg fel unigolion a chymuned at ddyfodol heb gasineb."