Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Pum dyn wedi eu cyhuddo o lwgrwobrwyo wedi cael gorchymyn i ad-dalu mwy na £365,000 i Gyngor Caerdydd.
Ym mis Tachwedd 2023, cafodd Andrew Barnett, Warren Roberts a Cesario Debreau eu carcharu yn dilyn ymchwiliad i weithgarwch llwgr yng Nghanolfan Ailgylchu Masnachol Clos Bessemer, sef cyfleuster rheoli gwastraff sy'n cael ei redeg gan Gyngor Dinas Caerdydd.
Cafodd Josh Hayman ac Anthony Miles ddedfrydau carchar wedi'u gohirio am eu rhan yn y gweithgarwch anghyfreithlon.
Nawr, yn dilyn gwrandawiad Deddf Enillion Troseddau yn Llys y Goron Caerdydd, mae'r pump wedi cael gorchymyn i ad-dalu'r arian a gawsant o'u troseddau.
Mae gan bob un dri mis i dalu'r symiau isod neu byddant yn wynebu'r risg o gael eu hanfon i'r carchar:
Warren Roberts, 57 oed, o Ben-y-lan | £252,027.40 |
Andrew Barnett, 56 oed, o Benarth | £42,894.47 |
Cesario Debreau, 36 oed, o Bentwyn | £42,894.47 |
Anthony Miles, 58 oed, o Benarth | £17,005.95 |
Josh Hayman, 33 oed, o Dredegar | £9,327.93 |
Caiff cyfanswm o £364,150.22 ei ddychwelyd i Gyngor Caerdydd.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Gwnstabl Joseph Lewis o Heddlu De Cymru:
"Roedd ymchwiliadau ariannol Heddlu De Cymru yn yr achos hwn yn fanwl a rhagweithiol, gan arwain at nodi, rhewi ac adfer swm sylweddol o asedau yn eiddo i'r diffynyddion.
"Roedd hon yn broses gymhleth a oedd yn cynnwys defnyddio cyfrifydd fforensig i'n galluogi ni i ganfod gwerth y fantais i Warren Roberts a staff y cyngor y talodd lwgrwobrwyon iddynt.
"Mae'r canlyniad hwn yn dangos ein penderfyniad i fynd ar ôl enillion troseddau ac atal y rhai sy'n gysylltiedig â gweithgarwch llwgr rhag cael budd ariannol hyd yn oed ar ôl iddynt gael eu heuogfarnu."
Daeth y gweithgarwch llwgr i sylw Cyngor Caerdydd pan honnodd chwythwr chwiban fod gweithgarwch llwgr yn yr Is-adran Rheoli Gwastraff.
Honnwyd bod Warren Roberts, rheolwr cwmni gwaredu gwastraff A&T Waste Management, yn talu llwgrwobrwyon i staff Cyngor Caerdydd gam-gyfleu’r math neu'r swm o wastraff a oedd yn cael ei waredu ar y safle er mwyn lleihau bil A&T.
O ganlyniad, roedd A&T yn arbed swm sylweddol o gostau gweithredu ar ffurf ffioedd tipio. Yn gyfnewid am hyn, roedd staff yn cael arian parod am gymryd rhan yn y drosedd hon.
Roedd yr euogfarnau, sef y rhai cyntaf, yn ôl pob tebyg, i Heddlu De Cymru eu sicrhau o dan y Ddeddf Llwgrwobrwyo, yn dilyn ymchwiliad cymhleth a hir a ddechreuodd yn 2017.
Dywedodd llefarydd o'r cyngor:
"Mae'r digwyddiad hwn yn gyfystyr â lladrata oddi wrth drethdalwyr Caerdydd, ac mae'n bwysig i drethdalwyr eu bod yn cael cyfiawnder.
"Pan ddaeth y pryderon hyn i'r amlwg gan chwythwyr chwiban, gweithredodd Heddlu De Cymru yn gyflym. Gwnaeth yr ymchwiliad a ddechreuodd yn 2017, amlygu llwgrwobrwyo sylweddol yn cynnwys camfynegi mathau o wastraff i leihau costau bilio i A&T Waste Management. Gwnaeth y gweithgaredd anghyfreithlon hwn arwain at golled ariannol sylweddol i'r cyngor a hefyd y trethdalwr.
"Mae'r euogfarnau a'r gwrandawiad Deddf Enillion Troseddau dilynol wedi sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol yn cael eu dwyn i gyfrif a bod yr arian a gafwyd drwy'r troseddau hyn wedi'i ddychwelyd i'r cyngor. Mae'r canlyniad hwn yn dangos ein hymrwymiad i amddiffyn adnoddau cyhoeddus a chynnal ymddiriedaeth ein cymuned.
"Fel ymateb i'r digwyddiad hwn, rydym wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o'n His-adran Rheoli Gwastraff a chyflwynwyd cyfres o fesurau cadarn i atal unrhyw ddigwyddiad tebyg rhag digwydd yn y dyfodol. Mae'r mesurau hyn yn cynnwys goruchwyliaeth uwch, rheolaethau llymach, a gwell hyfforddiant i'n staff i sicrhau'r safon uchaf o uniondeb a thryloywder yn ein gweithrediadau.
"Ni fyddwn yn goddef unrhyw fath o lwgrwobrwyo ac rydym yn parhau i fod yn ymroddedig i ddiogelu diddordebau'r trethdalwyr a chynnal uniondeb ein gweithrediadau."