Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
hynny ledled ardal yr heddlu.
Cyn y cyfnod rhwng 31 Hydref a 5 Tachwedd, mae Heddlu De Cymru yn atgoffa pobl i riportio unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol a hynny fel rhan o'u hymgyrch Adrodd i Adfer.
Mae'r cyfnod yn cael ei ystyried fel un o'r rhai prysuraf yn y calendr plismona. Y llynedd, derbyniodd ystafelloedd rheoli’r heddlu ychydig dros 1,828 o alwadau gan aelodau o’r cyhoedd ar noson Calan Gaeaf a 1,534 galwad arall ar Noson Tân Gwyllt, gyda llawer ohonynt yn pryderu am ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Gall y materion sy’n codi gynnwys anaf neu dân a achoswyd drwy ddefnydd amhriodol o dân gwyllt, taflu wyau, blawd ac eitemau eraill ar eiddo, ac aflonyddwch a achosir i gymunedau.
Bydd Heddlu De Cymru yn ehangu nifer y swyddogion sydd ar ddyletswydd i gynyddu eu hamlygrwydd ar 31 Hydref a 5 Tachwedd, gydag ystafell reoli yn cael ei sefydlu i gydlynu’r ymateb i unrhyw faterion.
Yn yr wythnosau cyn Calan Gaeaf, bu Heddlu De Cymru a’r gwasanaethau tân ac achub lleol yn gweithio gyda phartneriaid awdurdodau lleol i glirio gwastraff tipio anghyfreithlon ger unrhyw fannau sy’n peri pryder o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae digwyddiadau ymgysylltu cymunedol hefyd wedi'u cynnal i hysbysu trigolion am beryglon cynnau eu coelcerthi eu hunain a rhagofalon diogelwch i'w hystyried wrth ddefnyddio tân gwyllt gartref.
Nod ymgyrch Adrodd i Adfer Heddlu De Cymru yw annog mwy o bobl i adrodd eu pryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn i swyddogion allu cymryd camau priodol, boed hynny drwy ymgysylltu mwy â’r gymuned, drwy drefnu gweithgareddau gwrthdyniadol neu drwy orfodaeth mwy uniongyrchol.
Dywedodd y Prif Arolygydd Mark Brier: “Mae diwedd mis Hydref a dechrau mis Tachwedd yn un o adegau prysuraf y flwyddyn i Heddlu De Cymru a’i bartneriaid.
“Er y gall Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt fod yn hwyl diniwed i rai, i eraill gall fod yn destun gofid a phryder felly mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn ystyriol o’n gilydd.
“Trwy ein hymgyrch Adrodd i Adfer, rydym yn annog pobl i adrodd eu pryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu hardal oherwydd mae pob adroddiad yn cyfri. Po fwyaf o wybodaeth sydd gennym, y mwyaf effeithlon y gallwn fod wrth gymryd camau priodol i fynd i’r afael â phryderon pobl ac atal materion problemus rhag datblygu.”