Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion a staff o bob rhan o Heddlu De Cymru wedi cymryd rhan mewn ymgyrch heddlu cyfan yn ddiweddar er mwyn rhoi unigolion y mae'r heddlu wedi bod yn chwilio amdanynt ers cyfnod hir yn y ddalfa.
O dan Ymgyrch Chirk, caiff tri diwrnod o weithredu eu cynnal dros y misoedd nesaf, a chafodd y cyntaf ei gynnal ar 25 Medi.
Ar y diwrnod cyntaf hwn o weithredu, cafodd dros 50 o unigolion eu harestio, gyda'r drosedd hynaf yn eu plith yn dyddio'n ôl i fis Ebrill eleni. Mae'r troseddau yn cynnwys trais domestig, torri amodau mechnïaeth, ymosod, bygwth tystion, meddu ar arf tanio a galw yn ôl i'r carchar.
Cymerodd dros 80 o swyddogion yr heddlu ran yn arestiadau'r diwrnod hwnnw a chafodd 53 o bobl eu rhoi yn y ddalfa.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Jamie Holcombe:
“Bwriad Ymgyrch Chirk yw lleihau nifer yr unigolion dan amheuaeth nad ydynt wedi cael eu dal eto gan ddefnyddio datrysiadau cadarnhaol.
“Mae angen i ni sicrhau bod ymchwiliadau o'r safon uchaf, sy'n golygu y gellir symud achosion yn effeithlon drwy'r system gyfiawnder er mwyn cael y canlyniadau gorau, wrth barhau i ddarparu gwasanaeth uwch i ddioddefwyr.
“Fel y llynedd, roedd nifer sylweddol o arestiadau o dan Ymgyrch Chirk yn bosibl oherwydd ymdrech gyfunol cydweithwyr a phenderfyniad diflino i fynd ar ôl troseddwyr, gan eu dwyn i gyfrif.”
O'r 53 o unigolion a gafodd eu harestio, mae 11 ohonynt wedi cael eu cyhuddo i ymddangos gerbron y llys, mae 12 wedi'u cadw yn y ddalfa, cafodd 22 eu rhyddhau ar fechnïaeth, cafodd dau eu rhyddhau dan ymchwiliad, cafodd dau arall ddatrysiad cymunedol a chafodd pedwar eu rhyddhau heb gamau pellach.