Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafwyd Thomas Gwyn Griffiths, 78 oed, o Ddyffryn Rhondda, yn euog o ddau achos o ymosodiad rhywiol drwy dreiddio ar blentyn o dan 13 oed, ac achos ychwanegol o gyffwrdd rhywiol ar blentyn o dan 13 oed. Cyflawnodd y troseddau hyn dros gyfnod o ddwy flynedd.
Daeth troseddau Griffiths i'r amlwg pan ddatgelodd y dioddefwr yr hyn a oedd wedi'i wneud yn yr ysgol.
Yr wythnos hon, mae wedi cael ei ddedfrydu i 15 mlynedd o garchar ac un flwyddyn ar drwydded yn y gymuned. Bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf dwy ran o dair o'i ddedfryd yn y carchar cyn y bydd yn gymwys am barôl.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sharon Gill-Lewis: “Rwy'n parhau i feddwl am y dioddefwr a'i deulu, sydd wedi mynd drwy brofiad mor ddychrynllyd yn sgil gweithredoedd Thomas Gwyn Griffiths.
“Gall yr ymchwiliadau cymhleth hyn gymryd amser, ac mae'r dioddefwr wedi dangos amynedd a dewrder aruthrol tra bod yr ymchwiliad yn mynd rhagddo. Mae'r Ditectif Gwnstabl Chris Medlicott wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod y dioddefwr yn cael cyfiawnder ar ôl dioddef gweithredoedd ofnadwy gan unigolyn rheibus.
“Mae cam-drin plant yn rhywiol yn aml yn drosedd gudd. Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau y caiff llais y plentyn ei glywed. Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn cyfleu neges gref y bydd Heddlu De Cymru yn mynd ar drywydd pob llwybr ymchwilio sydd ar gael er mwyn sicrhau ein bod yn dod â chyfiawnder i ddioddefwyr ymosodiadau rhywiol ac anweddus difrifol."
I gael gwybodaeth a chanllaw ategol ar roi gwybod am droseddau rhywiol, gweler yma: Rhoi gwybod am droseddau rhywiol: Gwybodaeth a chanllaw ategol| Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
I gael help a chymorth mewn perthynas â threisio, ymosodiadau rhywiol a throseddau eraill, gweler yma: Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)