Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae un o'r dynion yr oedd heddlu'r DU yn fwyaf awyddus i'w dal wedi cael ei gludo'n ôl i Dde Cymru gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ar ôl treulio pedair blynedd ar ffo.
Cafodd Calvin Parris, 34 oed o Gaerdydd, ei ddal gan swyddogion Heddlu Barnwrol Portiwgal yn agos i dref Boliqueime yn yr Algarve, Portiwgal ar 3 Hydref.
Gwnaeth swyddogion o Ganolfan Troseddau Rhyngwladol ar y Cyd (JICC) yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ei hebrwng yn ôl i'r DU ar 15 Hydref a chafodd ei roi yn y ddalfa gan Heddlu De Cymru.
Cafodd Parris, sydd wedi cael ei gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cocên, ei enwi fel un o'r ffoaduriaid yr oedd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn fwyaf awyddus i'w dal ar ôl mynd ar ffo ym mis Tachwedd 2020.
Ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Caerdydd heddiw (16 Hydref) a chafodd ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad nesaf gerbron Llys y Goron Caerdydd ym mis Tachwedd.
Dywedodd Neil Keeping, Rheolwr Rhanbarthol Cenedlaethol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol:
“Mae arestiad Calvin Parris yn pwysleisio ein hymrwymiad i fynd ar ôl y sawl sydd wedi'u cyhuddo o droseddau difrifol a'u cludo'n ôl i'r DU i wynebu cyhuddiadau.
“Dylai hefyd fod yn rhybudd i ffoaduriaid eraill sydd ar ffo – ni waeth sut ydych yn ceisio osgoi camau gorfodi'r gyfraith, byddwch yn cael eich dal yn y pen draw.
“Hoffwn ddiolch i'n partneriaid yn Heddlu Barnwrol Portiwgal sydd wedi gweithio'n ddiflino i ddod o hyd i Parris a'i ddal, ac i'n swyddogion am ddod ag ef yn ôl i ddalfa Heddlu De Cymru.”
Dywedodd y Ditectif Ringyll Ceri Young o Heddlu De Cymru:
“Credir i Calvin Parris adael y DU ar neu cyn 29 Tachwedd, 2020 yn dilyn arestiad sawl cyd-gynllwyniwr. Ni ddaeth yn ôl a lansiwyd ymgyrch ar y cyd yn cynnwys Heddlu De Cymru, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith Ewropeaidd eraill i'w olrhain a'i arestio. Rhoddwyd Gwarant Arestio Ewropeaidd i'w arestio ar 22 Rhagfyr, 2020.
“Rydym yn falch o gyhoeddi bod Parris wedi cael ei arestio ym Mhortiwgal yn dilyn ymchwiliad ar y cyd gyda'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a phartneriaid gorfodi'r gyfraith Ewropeaidd eraill.
“Mae wedi'i gyhuddo o fod yn aelod olaf o grŵp troseddau cyfundrefnol a oedd yn rhan o gynllwyn cymhleth i fasnachu mewn cyffuriau Dosbarth A a reolir i Dde Cymru gan ddefnyddio dyfeisiau cyfathrebu wedi'u hamgryptio yn gweithredu ar y platfform ‘EncroChat’.
“Mae troseddau cyfundrefnol a masnachu mewn cyffuriau yn cael effaith andwyol iawn ar gymunedau, ac mae dwyn troseddwyr sy'n ymwneud â'r lefel hon o droseddu i gyfrif yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru.”