Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i farwolaethau sydyn cwpl mewn eiddo yn Trowbridge, Caerdydd.
Er nad yw'r unigolion wedi'u hadnabod ffurfiol eto, credir mai menyw 72 oed a dyn 74 oed ydynt. Mae'r perthnasau agosaf yn cael cymorth.
Galwyd ar y gwasanaethau brys i'r tŷ ar Morfa Crescent, tua 2.50pm ddydd Sadwrn 5 Hydref.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lianne Rees o Heddlu De Cymru: “Rydym yn deall bod y digwyddiad hwn wedi syfrdanu a thristáu'r gymuned leol.
“Mae ymholiadau helaeth yn cael eu cynnal er mwyn sefydlu'r amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad hwn.
“Rydym yn aros am ganlyniadau'r archwiliadau post mortem a fydd yn cadarnhau achos eu marwolaethau. Ar hyn o bryd, nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'u marwolaethau.”
Daethpwyd o hyd i reiffl yn yr eiddo. Daethpwyd hefyd o hyd i gi wedi marw yn y cyfeiriad.
Hoffem ddiolch i'r gymuned leol am ei hamynedd a'i dealltwriaeth tra bod cordonau yn eu lle o hyd.