Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r cwpl a fu farw mewn eiddo yn Trowbridge, Caerdydd, ddydd Sadwrn, wedi cael eu henwi fel Christine Jefferies, 72 oed, a Stephen Jefferies, 74 oed.
Galwyd ar y gwasanaethau brys i'w cartref ar Morfa Crescent, tua 2.50pm ddydd Sadwrn 5 Hydref.
Daethpwyd o hyd i ŵr a gwraig wedi marw, a chafodd reiffl ei atafaelu o'r eiddo.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lianne Rees o Heddlu De Cymru: “Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Christine a Stephen Jeffries ar yr adeg anodd hon.
"Mae ymholiadau helaeth yn parhau wrth i ni geisio cadarnhau'r digwyddiadau trasig a ddigwyddodd ddydd Sadwrn.
"Hoffwn ddiolch i'r gymuned am eu cymorth a'u dealltwriaeth barhaus wrth i ni barhau â'n hymchwiliad.”
Mae'r teulu'n parhau i gael eu cefnogi a'u diweddaru.
Ar hyn o bryd nid yw'r swyddogion yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'u marwolaethau.