Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 38 oed wedi cael ei ddedfrydu am ymosod ar blentyn ifanc yn rhywiol 12 mlynedd yn ôl.
Dedfrydwyd Shannon Leigh Newth i 16 mlynedd o garchar heddiw a chafodd orchymyn atal am oes.
Dim ond 7 oed oedd y plentyn pan gafodd ei cham-drin yn 2011, ond dechreuodd yr ymchwiliad yn 2023 pan roddodd y dioddefwr wybod am y gamdriniaeth, ar ôl iddi weld post Facebook ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a dynnodd sylw at achos tebyg.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, y Ditectif Georgia Davies:
“Mae hwn yn achos lle nad oedd y dioddefwr yn teimlo'n gyfforddus yn datgelu'r troseddau i unrhyw un tan sawl blwyddyn yn ddiweddarach.
“Hoffwn ddiolch i'r dioddefwr am ei dewrder a'i chryfder wrth siarad â ni ac am ei hymrwymiad yn ystod yr ymchwiliad.
“Roedd y troseddau yn brofiad erchyll i blentyn ifanc ei wynebu pan ddylai fod wedi bod yn mwynhau ei phlentyndod. Drwy gysylltu â ni, hyd yn oed ar ôl sawl blwyddyn, mae wedi sicrhau bod Newth dan glo lle na all frifo unrhyw un arall.
“Gobeithio y bydd unrhyw un sy'n teimlo na fyddwn yn cymryd eu profiadau o ddifrif am fod blynyddoedd wedi mynd heibio yn gwybod y gallant siarad â ni o hyd. Baswn yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef ymosodiad rhyw, neu'n adnabod rhywun sydd wedi dioddef hyn, i gysylltu â ni. Byddwn yn gwrando arnoch, a byddwn yn ymchwilio iddo."
I gael cyngor ar droseddau rhyw, ewch i https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/