Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu am 24 mlynedd am droseddau rhywiol yn dyddio'n ôl i'r 1970au.
Plediodd Peter David Long, 66 oed, yn euog ar 21 Awst 2024 i chwe achos o gyfathrach rywiol gyda merch o dan 13 oed ac 13 o achosion o ymosodiad anweddus. Roedd yr 19 o droseddau yn erbyn pedair merch a oedd rhwng saith a 14 oed ar adeg y troseddau.
Cafodd Long ei ddedfrydu ddydd Gwener, 25 Hydref, yn Llys y Goron Caerdydd i 24 mlynedd o garchar gydag un flwyddyn ar drwydded, a gorchymyn atal am oes ar gyfer yr holl achwynwyr.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r Achos, y Ditectif Gwnstabl Georgia Davis: "Diolch i'r ffaith bod y menywod hyn wedi bod yn fodlon siarad â ni mewn perthynas â gweithredoedd ffiaidd Long, bydd nawr yn wynebu'r canlyniadau. Hoffwn eu canmol am eu cryfder drwy gydol yr ymchwiliad a'r broses llys. Cymerodd llawer iawn o ddewrder i gamu ymlaen a dweud wrthon ni beth ddigwyddodd.
"Bydd honiadau am droseddau rhywiol bob amser yn cael eu cymryd o ddifrif gan ein swyddogion ni waeth faint o flynyddoedd sydd wedi mynd heibio, ac rwy'n gobeithio y bydd yr euogfarn hon yn profi nad yw byth yn rhy hwyr i ddweud eich stori. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau cyfiawnder yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol, ni waeth pryd ddigwyddodd y troseddau.
"Rwy'n annog unrhyw un sydd wedi bod yn ddioddefwr trosedd rywiol i gamu ymlaen a rhoi gwybod i ni, gan wybod y byddwn yn ymchwilio i'r achos yn drylwyr. Mae gennym swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol fydd yn eich cefnogi, yn ogystal ag asiantaethau partner."
Cafodd Long orchymyn hefyd i lofnodi'r gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Gall unrhyw un sy'n credu ei fod wedi dioddef cam-drin rhywiol ymweld â https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/ i gael help, cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth.