Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Iain Marsh o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am 21 mlynedd am droseddau rhyw ar ddwy ferch o dan 13 oed.
Cafwyd y dyn 52 mlwydd oed yn euog o 18 o droseddau yn dilyn treial yn Llys y Goron Caerdydd fis diwethaf (Medi 2024).
Roedd Marsh yn ôl yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun 14 Hydref i gael ei ddedfrydu.
Mewn datganiadau i'r llys, disgrifiodd y dioddefwyr effaith seicolegol y cam-drin arnynt.
Cafodd ei garcharu am 14 mlynedd a saith mlynedd yn olynol gyda chyfnod prawf estynedig o ddwy flynedd.
Rhoddwyd hefyd Orchmynion Atal a Gorchmynion Atal Niwed Rhywiol gan y Barnwr a bydd yn rhaid i Marsh aros ar y Gofrestr Troseddwyr Rhyw am gyfnod amhenodol.
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi dioddef trais, ymosodiad rhyw neu drosedd ryw arall, mae gwybodaeth yma am yr help sydd ar gael: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/
Mae cymorth hefyd ar gael gan ein partneriaid, New Pathways https://www.newpathways.org.uk/cy/ sy'n darparu amrywiaeth o wasanaethau argyfwng gan gynnwys eiriolaeth a chwnsela.