Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Digwyddodd yr anhrefn yn dilyn gêm bêl-droed ac roedd yn cynnwys grŵp o unigolion, a dywedwyd bod gan rai ohonynt arfau a'u bod wedi gorchuddio eu hwynebau.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i anhrefn dreisgar yn Llanrhymni, Caerdydd.
Ychydig ar ôl 4pm ddydd Sadwrn (12 Hydref) cafodd yr heddlu eu galw i aflonyddwch y tu allan i Ganolfan Hamdden y Dwyrain, Llanrumney Avenue.
Digwyddodd yr anhrefn yn dilyn gêm bêl-droed ac roedd yn cynnwys grŵp o unigolion, a dywedwyd bod gan rai ohonynt arfau a'u bod wedi gorchuddio eu hwynebau.
Roedd sawl ymosodiad, gan gynnwys un ar ddyn 32 oed o Drelái sydd wedi dioddef anafiadau a fydd yn newid ei fywyd, a chafodd cerbyd ei ddifrodi.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Daniel Todd, o Heddlu De Cymru:
“Roedd lefel y trais yn ofnadwy ac ni chaiff hyn ei oddef. “Yn ddealladwy, mae'r digwyddiad hwn wedi ysgwyd y gymuned, ac mae'n rhaid ei fod wedi dychryn pawb dan sylw.
“Rydym yn ddiolchgar am y wybodaeth rydym wedi'i chael hyd yma ac yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â ni.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu ddeunydd fideo gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu cyfeirnod 2400340400:
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.