Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Andrew Burke, o Gaerdydd, wedi cael ei garcharu am drais a throseddau rhywiol eraill.
Cafwyd y dyn 60 oed yn euog o drais, trais yn erbyn plentyn, ymosodiad anweddus, cymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol ym mhresenoldeb plentyn, tynnu llun anweddus o blentyn ac ymosod ar ferch o dan 13 oed drwy gyffwrdd
Ddydd Iau 3 Hydref yn Llys y Goron Caerdydd, cafodd Burke ei ddedfrydu i 15 mlynedd yn y carchar. Bydd hefyd yn destun gorchymyn atal a Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am 30 mlynedd.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Gwnstabl Victoria Howe, o Heddlu De Cymru:
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cynorthwyo yn yr achos hwn i sicrhau cyfiawnder i'r dioddefwyr.
"Drwy gydol yr ymchwiliad a'r achos llys mae'r dioddefwyr wedi bod yn hynod o gryf. Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn rhoi rhywfaint o gysur iddynt ac yn eu helpu i symud ymlaen."
Rhoddodd y dioddefwyr Ddatganiadau Personol Dioddefwyr ac aethant ati'n ddewr i ddisgrifio effaith troseddau Burke arnynt.
"Wedi iddo fy nhreisio roeddwn yn teimlo llawn cywilydd, heb urddas ac yn fudr. Sut y gall un person wneud cymaint o bethau afiach a threisgar? Torrodd fi fel person... Mae'n anghenfil... Nid yw'n haeddu cael ei draed yn rhydd ar ôl gwneud yr hyn mae wedi ei wneud. Mae'n berson afiach a gwyrdröedig."
"Fe wnaethoch fy ngham-drin yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol gan ddinistrio fy urddas, fy ymddiriedaeth a fy niniweidrwydd. Dwi'n gaeth i groen sydd wedi cael ei dreisio, ni all fy nghorff ddianc y teimlad hunllefus..."
"Fe wnaethoch ddinistrio diniweidrwydd merch fach. Roeddwn i mor ifanc a ddim yn gwybod beth i'w wneud pan wnaethoch beth wnaethoch i mi. Fe wnaethoch fy ninistrio ac rwy'n teimlo'n anghyfforddus o hyd oherwydd chi."
Mae menywod a merched yn dioddef achosion o drais a cham-drin i raddau anghymesur, a gallant ddioddef dan ddwylo partner, cyn-bartner neu aelod o'r teulu, a dieithryn weithiau.
Mae Heddlu De Cymru wedi gweithio gyda menywod a merched sy'n byw yn Ne Cymru ac wedi rhannu eu profiadau bywyd drwy ymgyrch Gweld Fi. Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth ac annog pawb i wrthwynebu pob math o gam-drin, a dwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif er mwyn i ni allu sicrhau bod gennym gymdeithas lle mae menywod a merched yn ddiogel.