Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dronau yn cael eu defnyddio'n gynyddol gan droseddwyr i ollwng contraband mewn ystadau carchar ar draws y Deyrnas Unedig. Mae CEF y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn destun ymgyrch barhaus gan yr heddlu a G4S i fynd i'r afael â chludo eitemau gyda dronau ac atal contraband rhag cyrraedd ei gynulleidfa fwriadedig.
Mae'r ymgyrch eisoes wedi gweld llwyddiant wrth adfer eitemau anghyfreithlon cyn iddynt allu achosi niwed i boblogaeth y carchar. Mae swyddogion cudd-wybodaeth carchardai o fewn Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ar gyfer de Cymru wedi bod yn gweithio gyda Thîm Troseddau mewn Carchardai Heddlu De Cymru a G4S i olrhain a thargedu'r dronau ymchwilio i'r rhai sy'n gyfrifol am eu hanfon.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Karl Stephens o Tarian:
“Mae troseddwyr cyfundrefnol yn benderfynol o gael cyffuriau, arfau, ffonau symudol ac eitemau anghyfreithlon eraill i mewn i ystadau carchar. Rydym yn parhau i fynd ar drywydd unrhyw un sy'n ceisio achosi niwed i'r garchardai a'u poblogaethau yn ein rhanbarth, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i greu amgylcheddau adsefydlu diogel ar gyfer cymunedau'r carchardai.”
“Rwy'n annog aelodau o'r cyhoedd sy'n byw neu'n gweithio ger carchardai i roi gwybod am unrhyw achos posibl o weld dronau dros ystadau carchar. Rwyf hefyd yn apelio'n uniongyrchol ar garcharorion, cyn-garcharorion, a theuluoedd carcharorion i roi gwybod am y math hwn o droseddu fel y gallwn weithio gyda'n gilydd i gadw pobl yn ddiogel rhag niwed.”
Dywedodd llefarydd o CEF y Parc:
“Mae gan G4S fesurau cadarn ar waith er mwyn mynd i'r afael â chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon i mewn i CEF y Parc. Rydym yn gweithio'n agos gyda Heddlu De Cymru a Tarian er mwyn darparu cudd-wybodaeth a thystiolaeth pan fydd unrhyw un yn ceisio dod â chontraband i mewn i'r carchar. Hoffem ddiolch i'r heddlu am eu cefnogaeth barhaus.”
Rhoi gwybod yn ddienw i Crimestoppers drwy eu gwefan: Independent UK charity taking crime information anonymously | Crimestoppers (crimestoppers-uk.org) neu drwy ffonio 0800 555 111.