Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn cefnogi ymgyrch genedlaethol newydd sy’n canolbwyntio ar annog dioddefwyr a goroeswyr cam-drin a chamfanteisio’n rhywiol ar blant geisio cymorth.
Mae’r ymgyrch, sydd wedi derbyn pob gwybodaeth gan y rhai sydd hefo profiad byw o’r dechrau i’r diwedd, yn gobeithio gwneud i ddioddefwyr a goroeswyr deimlo eu bod yn cael eu gweld a’u clywed, i wybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain a’u hannog nhw ddweud wrth ffrind, cysylltu hefo sefydliad cymorth a teimlo y gallan nhw gymryd y cam hwnnw, pryd bynnag y byddan nhw’n barod gwneud hynny.
Mae Pan Fyddwch Chi’n Barod a lansiwyd gan Dasglu Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yn canolbwyntio ar ffilm tri munud drawiadol sy’n cynnwys lleisiau dioddefwyr a goroeswyr sydd wedi profi cam-drin a chamfanteisio’n rhywiol ar blant - mae hyn yn cynnwys gwasanaethau cyswllt a gwasanaethau ar-lein. Nid ydy’r ffilm yn trafod y gam-driniaeth a brofwyd ond mae’n manylu ar y profiad a gafodd pob dioddefwr a goroeswr wrth wneud y penderfyniad anodd i ddatgelu eu bod wedi cael eu cam-drin i anwyliaid, sefydliad cymorth a/neu’r heddlu, a’r effaith a gafodd ar eu bywyd wedi hynny.
Nodyn: Ffilm as gael yn Saesneg yn unig
Y gobaith ydy y bydd dioddefwr a goroeswyr yn uniaethu hefo’r ffilm, gan amlygu nad ydynt ar eu pen eu hunain, ac mae hyn yn digwydd i bobl eraill, fel nhw, sy’n byw ac yn ffynnu.
Mae’r ymgyrch hefyd yn anelu annog mwy o ddioddefwyr a goroeswyr geisio cymorth os ydy hynny’n beth iawn i’w wneud iddyn nhw – boed hynny’n dweud wrth ffrind neu cysylltu hefo sefydliad cymorth.
Os ydy rhywun yn barod i gymryd y cam nesaf o ddatgelu eu profiad, mae’r ffilm yn cyfeirio dioddefwyr a goroeswyr at wefan bwrpasol yr ymgyrch gan eu cyfeirio nhw at ystod o wasanaethau a sefydliadau cymorth, yn ogystal â chynnwys manylion ar sut i riportio wrth yr heddlu.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Becky Riggs o Heddlu Staffordshire, sy’n arwain ar Ymchwiliadau Cam-drin Plant ar ran CCPSH:
“‘Da ni am i ddioddefwyr a goroeswyr deimlo’n gadarnhaol ac yn obeithiol ar ôl gweld yr ymgyrch hon.
“O’n gwaith ni hefo dioddefwyr a goroeswyr, ‘da ni’n deall y gall gymryd blynyddoedd lawer i brosesu’r cam-drin neu’r camfanteisio a brofwyd ganddyn nhw. I rai, gall hyd yn oed gymryd blynyddoedd er mwyn cydnabod mai cam-drin oedd yr hyn a brofwyd ganddyn nhw mewn gwirionedd, ac nid gweithredoedd cariadus neu ofalgar rhywun y gallan nhw ymddiried ynddyn nhw.
“‘Da ni hefyd yn deall, o ymchwil helaeth a wnaed, nad ydy ‘cyfiawnder’ i ddioddefwyr a goroeswyr o reidrwydd yn golygu cyfiawnder troseddol fel canlyniad. Gall dweud wrth rywun fod yn ddigon.
“Fodd bynnag, os ydy’r dioddefwyr yn gwneud y penderfyniad hynod anodd i ddatgelu eu cam-driniaeth, dylen nhw fod yn dawel eu meddwl bod yna sefydliadau sy’n gallu rhoi help, pryd bynnag mae nhw’n barod.”
Ychwanegodd Tracey Rankine, Ditectif Uwch-arolygydd Adran Ddiogelwch a Diogelu'r Cyhoedd:
“Buaswn i’n annog unrhyw un sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol - i ddod ymlaen a riportio. Dwi’n eich sicrhau y bydd rhywun yn gwrando arnoch chi, a byddwn ni’n eich helpu chi gael y gefnogaeth ‘da chi’n ei haeddu.
“Gellir riportio am gam-drin rhywiol unrhyw bryd, nid ydy hi byth yn rhy hwyr. Mae eich llais chi’n haeddu cael ei glywed ar unrhyw adeg ac nid oes rhaid i chi fynd drwyddo fo ar eich pen eich hun. Mae gennym ni dimau arbenigol er mwyn gwneud yn siŵr bod yr holl ddioddefwyr sy’n cysylltu hefo ni yn cael eu helpu yn y ffordd orau bosibl.
“Mae Heddlu De Cymru wedi ymrwymo atal cam-fanteisio rhywiol a throseddol ar blant. Rydym yn casglu cudd-wybodaeth ac yn gweithredu, gan weithio hefo’n partneriaid fel y gallwn ni atal troseddau pellach, gwarchod dioddefwyr ac erlid troseddwyr.”
Gall rhoi gwybod am dreisio, ymosodiad rhywiol neu drosedd rywiol arall fod yn frawychus. Rydyn ni yma i'ch cefnogi p'un a ydych chi'n barod i adrodd amdano i ni neu os byddai'n well gennych chi siarad â rhywun arall. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma.
I unrhyw un nad yw’n gyfforddus yn siarad â’r Heddlu, mae Byw Heb Ofn yn cynnig cymorth24/7 365. Mae pob galwad yn gyfrinachol ac yn cael ei chymryd gan staff sy'n hynod brofiadol ac wedi'u hyfforddi'n llawn. Bydd rhywun yn gwrando arnoch chi, yn eich credu ac yn cael cynnig cymorth a chefnogaeth. Ni chewch eich barnu na'ch beio ac nid oes rhaid i chi fod yn barod i gymryd unrhyw gamau. Am ragor o fanylion ewch i Byw Heb Ofn.
Yn ogystal, mae New Pathways, y darparwr cymorth trais rhywiol mwyaf yng Nghymru yn gallu darparu cymorth ac arweiniad.