Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ym mis Mawrth 2024, roedd Aladje Balde a Bavine Durame, y ddau yn 21 oed, yn teithio mewn Toyota Yaris gwyn yn y Rhath, Caerdydd, pan gawsant eu gweld gan swyddogion plismona'r ffyrdd.
Wrth i'r swyddogion droi eu goleuadau glas a'u seiren ymlaen i'w hysbysu y dylent stopio, gwnaeth Balde, a oedd yn gyrru, yrru am yn ôl i mewn i gar yr heddlu er mwyn gallu dianc, ond cyn iddynt allu gwneud, daeth cerbyd heddlu arall a'u cornelu.
Ceisiodd y dynion ddianc ond cawsant eu harestio funudau yn ddiweddarach. Cynhaliodd y swyddogion chwiliad o'u cerbyd a daethant o hyd i gannoedd o bunnoedd mewn arian parod, cyllyll ffurf Rambo, a chloriannau digidol.
Yn nalfa'r heddlu, daeth swyddogion o hyd i grac cocên wedi'i guddio yn nillad isaf Durame. Dangosodd ffôn symudol a atafaelwyd gan swyddogion dystiolaeth glir eu bod yn delio cyffuriau.
Cafodd Aladje Balde, o Heol Sedgemoor, Llanrhymni, ei gyhuddo o fod â chocên yn ei feddiant, meddu ar gocên gyda'r bwriad o'i gyflenwi, ymwneud â chyflenwi heroin a chocên, meddu ar gyllell mewn man cyhoeddus, a throseddau gyrru.
Cafodd Bavine Durame o Bishop Road, Sandwell, Lloegr, ei gyhuddo o fod â chocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi a meddu ar gocên.
Plediodd y ddau ddyn yn euog a gwnaethant ymddangos ger bron Llys y Goron Caerdydd i gael eu dedfrydu ddydd Mercher 23 Hydref, lle cafodd y ddau eu carcharu am dair blynedd yr un.