Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw (Dydd Gwener, 18 Hydref) cafodd Ashley Davies, 30 mlwydd oed o Stryd Forge, Pentre, ddedfryd oes am lofruddio Conall Evans, gan aros yn y carchar am o leiaf 26 mlynedd cyn iddo fod yn gymwys am barôl.
Ymddangosodd yn Llys y Goron Merthyr Tudful lle'u cafwyd yn euog o lofruddiaeth ac am feddu ar eitem lafnog yn dilyn treial deg diwrnod a daeth i ben ar 11 Hydref.
Cafodd ei ddioddefwr, Conall Evans, 30 mlwydd oed, ei anafu'n ddifrifol ger fflatiau Pen Dinas, Ffordd Dinas, Tonypandy yn ystod oriau mân 1 Ionawr, 2024. Daethpwyd o hyd i'w gorff ger Ysbyty Cwm Rhondda lle cafodd ei ddatgan yn farw yn fuan wedyn. Bu farw o un anaf â chyllell i'w frest.
Mae teulu Conall Evans wedi talu'r deyrnged ganlynol iddo:
"Bu colli Conall yn gwbl ddinistriol - mae wedi rhwygo ein byd ac wedi gadael gwacter yn ein calonnau na ellir ei lenwi. Mae colli brawd cariadus a mab hyfryd fel hyn yn rhywbeth na allwch fyth ei ddychmygu. Rydym yn meddwl am Conall bob munud o bob diwrnod ac mae gyda ni ym mhopeth a wnawn.
"Roedd Conall yn berson mor hapus a bywiog yn byw ei fywyd i'r eithaf. Roedd pawb a oedd yn adnabod Conall yn gwybod ei fod yn berson hyfryd a charedig - roedd ganddo gymaint o amser i'w roi i'w deulu a'i ffrindiau.
"Rydym wedi colli brawd, mab, ewythr a ffrind. Bydd gwên hyfryd Conall, ei chwerthiniad heintus, a'i ysbryd diddiwedd yn bethau na fyddwn byth yn eu profi eto. Y gwirionedd yw ei fod wedi mynd am byth ac mae'n rhywbeth na allwn ddod i delerau ag ef. Bydd atgofion amdano yn byw yn ein calonnau ac yng nghalonnau pawb a oedd yn ei garu, ond ni fydd byth yn cymryd lle poen ei absenoldeb. Rydym bob amser wedi ei garu a byddwn yn dal i wneud hynny.
"Mae'n anodd rhoi mewn i eiriau pa mor dorcalonnus rydym yn teimlo - mae'r boen bob amser gyda ni. Rydym yn cael rhywfaint o gysur gan y gefnogaeth rydym wedi ei chael gan deulu a ffrindiau, a phrofodd poblogrwydd ei angladd cymaint oedd yn caru Conall a pha mor boblogaidd ydoedd.
"Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb yn Heddlu De Cymru sydd wedi gweithio mor galed i ddod â'r diffynnydd gerbron ei well a hoffwn ddiolch yn arbennig i'r Ditectif Arolygydd David Butt am ei gefnogaeth ac am ei broffesiynoldeb, ac i'n swyddog cyswllt teuluol, Ditectif Gwnstabl Joanne Ferguson, sydd wedi bod gyda ni bob cam o’r ffordd, yn ein cefnogi mewn ffyrdd na allwn fyth ddiolch iddi yn iawn. A hefyd diolch i Mr Mike Jones CB, a helpodd i gael cyfiawnder i Conall a'i deulu."
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dai Butt:
"Mae'r achos hwn yn dangos effaith ddinistriol troseddau'n ymwneud â chyllyll a rhaid i'r rhai sy'n cario cyllyll gofio'r effaith y gall eu gweithredoedd ei chael arnyn nhw eu hunain, ar bobl eraill, ar eu teulu a'u ffrindiau, ac ar y gymuned ehangach.
"Cafodd bywyd Conall ei dorri'n druenus o fyr oherwydd gweithredoedd barbaraidd Ashley Davies, sydd nawr yn wynebu cyfnod sylweddol dan glo. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi rhywfaint o gysur i deulu Conall – rydym yn parhau i'w cefnogi.
“Unwaith eto hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu cefnogaeth drwy gydol yr ymchwiliad.”