Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dyma oedd geiriau'r deliwr cyffuriau Ashley Lewis ar ôl i swyddogion chwilio ei gartref yn Nhrelái a dod o hyd i werth miloedd o bunnoedd o gocên.
Cafodd y dyn 35 oed o Gaerdydd ei arestio ar ôl i swyddogion weithredu gwarant cyffuriau yn ei gyfeiriad cartref ar Plymouth Close ar 9 Gorffennaf (2024).
Daethant o hyd i werth cymaint â £6,000 o gocên wedi'i guddio mewn mannau gwahanol yn y fflat llawr gwaelod, gan gynnwys arian, clorian digidol a bwyell.
Daethpwyd o hyd i ffôn symudol a oedd yn cynnwys tystiolaeth o ddelio cyffuriau wedi'i guddio mewn basged teganau plant.
Cafodd Lewis ei gyhuddo o fod â chyffuriau dosbarth A yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi ac am ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A, a phlediodd yn euog yn dilyn hynny.
Wrth iddo gael ei gymryd i'r ddalfa, roedd Lewis yn ymddangos fel pe bai'n derbyn ei dynged, gan gyfaddef i'r swyddogion ‘Chi wedi fy nal wrthi’, a gofyn: “Pa mor hir mae delwyr cyffuriau yn ei dreulio yn y carchar y dyddiau yma?”
Cafodd ateb i'w gwestiwn bron dri mis yn ddiweddarach, ddydd Mawrth 1 Hydref, pan gafodd ei garcharu am 28 mis yn Llys y Goron Caerdydd.
Roedd Lewis yn un o 25 o bobl a gafodd eu harestio yn ystod mis Gorffennaf (2024) gan Dîm Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro. Yn ystod yr ymgyrch atal, atafaelwyd chwarter cilogram o gocên a £17,000 mewn arian parod. Cafodd cyfanswm o 21 o linellau cyffuriau hefyd eu hatal rhag masnachu.