Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Llun o Kamil Ernest.
Mae deliwr cyffuriau o Gaerdydd a gafodd ei ddal â chocên ac arian parod wedi'i garcharu.
Nid oedd Kamil Ernest, 19 oed, o Grangetown, Caerdydd yng nghartref ei deulu yn y Tyllgoed pan ymwelodd swyddogion yr heddlu â'r eiddo yn ddirybudd ar 9 Gorffennaf.
Ond daeth swyddogion o hyd iddo mewn parc cyfagos lle gwnaethant ei chwilio a chanfod cannoedd o bunnoedd mewn arian parod a rolion o grac cocên
Roedd Ernest yn cario ffôn symudol a gafodd ei atafaelu gan swyddogion a oedd yn cynnwys tystiolaeth o swmp-negeseuon yn gysylltiedig â chyflenwi cocên a heroin.
Plediodd Ernest yn euog o ymwneud â chyflenwi crac cocên a meddu ar grac cocên gyda'r bwriad o'i gyflenwi a, ddydd Iau 19 Medi, ymddangosodd gerbron Llys y Goron Caerdydd lle cafodd ei garcharu am 28 mis.
Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â ni.
Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am achosion o ddelio mewn cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â ni.
Roedd Ernest yn un o 25 o bobl a gafodd eu harestio yn ystod mis Gorffennaf (2024) gan Dîm Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro. Yn ystod yr ymgyrch atal, atafaelwyd chwarter cilogram o grac cocên a £17,000 mewn arian parod. Cafodd cyfanswm o 21 o linellau cyffuriau hefyd eu hatal rhag masnachu.
Mae gan Heddlu De Cymru ddull gweithredu dim goddefgarwch at ddelio mewn cyffuriau, a dim ond un enghraifft yw'r ymchwiliad hwn o'r ffordd rydym yn mynd i'r afael ag achosion o ddelio mewn cyffuriau yn y gymuned.
Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â ni.
Caiff unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am achosion o gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon ei annog i gysylltu â ni.
Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/
101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111