Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth am ladrad a ddigwyddodd ger McDonalds ym Mharc Manwerthu Capital, Lecwydd, Caerdydd.
Cafodd dyn 21 oed ei drywanu, a chafodd ei feic trydan glas ei ddwyn.
Mae teledu cylch cyfyng yn dangos y ddau unigolyn dan amheuaeth yn ffoi ar feiciau, gan gynnwys y beic a gafodd ei ddwyn, i gyfeiriad Lawrenny Avenue.
Digwyddodd hyn tua 10.10pm ddydd Mercher, 18 Medi.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Carys Mansfield: “Yn ffodus, nid yw anafiadau'r dioddefwr yn peryglu bywyd, ond mae'r lefel hon o drais yn gwbl annerbyniol.
“Mae'r dioddefwr eisiau ei feic yn ôl yn ofnadwy ac rydym yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni.
“Mae troseddau cyllyll yn gostwng yng Nghaerdydd a De Cymru ond mae unrhyw ddigwyddiad sy'n cynnwys cyllell, yn un digwyddiad yn ormod.
Mae teledu cylch cyfyng yn dangos yr unigolyn dan amheuaeth yn croesi'r ffordd o flaen cerbyd sy'n edrych fel Audi llwyd.
Gofynnir i dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu 2400313011.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📞 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.