Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion a PCSOs Heddlu De Cymru wedi defnyddio naloxone trwynol i achub bywyd am y canfed tro.
Defnyddir y gwrthgyffur brys mewn achosion o orddos a achoswyd gan heroin ac opiadau neu sylweddau opioid eraill ac mae tua 700 o swyddogion yr heddlu, PCSOs a Chwnstabliaid Gwirfoddol yn ei gario.
Yr wythnos hon, cofnodwyd y canfed achos cadarnhaol o'i ddefnyddio, ychydig dros ddwy flynedd ers i brif swyddogion ganiatáu i swyddogion rheng flaen ei gario.
O blith y 100 o achosion cadarnhaol o'i ddefnyddio, mae 36 wedi bod yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, 32 ym Morgannwg Canol, a 32 yng Nghaerdydd a'r Fro.
Mae nifer y cyflogeion sy'n gwirfoddoli i'w gario hefyd wedi parhau i dyfu ers iddo gael ei gyflwyno.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Stuart Johnson, swyddog arweiniol ar gyfer naloxone:
“Mae Heddlu De Cymru yn arwain y ffordd o ran y defnydd o naloxone trwynol ac mae hyn yn rhywbeth y dylem fod yn falch ohono.
“Nid yw cyffuriau yn gwahaniaethu, ac rydym wedi llwyddo i helpu i achub bywydau 100 o bobl, sydd wedi gallu dychwelyd adref at eu teuluoedd a'u ffrindiau.”
Mae naloxone yn gweithio drwy wrthdroi'r trafferthion anadlu y gall gorddos o'r sylweddau hyn eu hachosi, gan roi mwy o amser i ofal meddygol brys gyrraedd.
Ychwanegodd y Ditectif Brif Arolygydd Johnson:
“Yn anffodus, mae nifer yr achosion o wenwyno sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn parhau i fod yn uchel yn Ne Cymru ac mae heriau newydd yn dod i'r amlwg yn rheolaidd; opioidau synthetig yw'r her ddiweddaraf.
“Dim ond un ymysg llawer o ymyriadau sydd eu hangen i leihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yw naloxone trwynol. Rydym yn parhau i weithio gydag asiantaethau partner i leihau achosion o wenwyno sy'n gysylltiedig â chyffuriau."