Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dioddefwr gwrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol ar yr A48 yn y Bontfaen ddydd Mercher 16 Hydref wedi cael ei enwi fel Mark Orpin, 35 oed, o Daibach, Castell-nedd Port Talbot.
Mae partner Emily wedi cyhoeddi'r deyrnged ganlynol iddo.
Mark Michael Orpin
16.03.1989 - 16.10.2024
"Os oeddech yn adnabod Mark, byddech yn gwybod ei fod yn un o'r bobl mwyaf addfwyn, cariadus a phur y byddech fyth yn ei gyfarfod.
"Roedd gan Mark gymaint o ffrindiau agos ac mae hyn yn dangos pa mor garedig ydoedd. Ffrindiau ysgol, y brifysgol, y bobl y gwnaeth eu cyfarfod drwy ei ymroddiad at waith elusennol ac o'i deithiau ar ei ben ei hun i nifer o wledydd ledled y byd. Byddai'n mynd allan am dro neu i'r siop, yn y wlad yma neu un arall, a byddai'n rhaid iddo stopio 10 gwaith i ddweud helo wrth rywun roedd yn ei adnabod. Doedd hyn ddim yn ei helpu i gadw amwer, fel y bydd y bobl agosaf ato yn gwybod.
“Does dim syndod bod y mwyafrif o ffrindiau Mark yn dod o fyd rygbi. Nid hobi yn unig oedd rygbi i Mark, roedd yn rhan o'i fywyd. Rhoddodd ei fywyd i rygbi ac roedd ei angerdd dros y gêm yn ysbrydoledig. O chwarae bob penwythnos i'r hyfforddiant drwy gydol yr wythnos, llwyddodd i gael amser i hyfforddi tîm Bridgend Bulls dan 12 oed, hyd yn oed. Byddai llawer iawn o'r bechgyn ifanc hyn wedi edmygu Mark ac eisiau bod yn debyg iddo, a phwy na fyddai eisiau hynny? Roedd Mark yn arwr.
“Roedd Mark yn frawd gwych i James ac yn enwedig i'w frawd bach, Sam. Gwnaeth Mark yn siŵr bob amser fod Sam yn cael ei gynnwys ym mhopeth yr oedd yn ei wneud, ac roedd Mark yn amddiffynnol o Sam o oedran ifanc. Ar nosweithiau allan, gwyliau dramor, neu hyd yn oed i'r siop, roedd Sam wrth ochr Mark ac ni fyddai wedi bod eisiau newid hynny.
"Roedd Mark yn fab ardderchog - ni fyddech wedi gallu gofyn am fwy ganddo. Mae Mark yn glod i Peter a Mandy, a dylent fod yn falch iawn o'r dyn y gwnaethant ei fagu. Gallwch weld y person yr oedd Mark oherwydd cariad Peter a Mandy tuag ato.
“Ni allai merch ddymuno cael partner gwell na Mark; derbyniodd ei lysenw, Asda, hyd yn oed. Roedd yn ŵr bonheddig a oedd yn gofalu am y pethau bach a byddai hyd yn oed yn dweud, 'Dydw i ddim ar Call of Duty heno fechgyn, rwy'n treulio amser gydag Em'.
“Mae ein calonnau wir wedi torri ac rydym wedi cael ein llorio ar ôl colli Mark. Er gwaethaf y cyfnod roedd yn ein bywydau, mae'r ffaith ei fod wedi gwneud ein bywydau yn well yn rhoi cysur i ni. Roedd fel glud yn cadw llawer o bobl gyda'i gilydd, a byddwn yn ei gofio fel 'ginger' caredig a oedd wrth ei fodd â rygbi yr ydym i gyd yn ei garu ac yn ei golli. Rydyn ni'n dy garu di Mark.”
Rydym yn apelio am unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad neu unrhyw un sydd â deunydd fideo o gamera dashfwrdd neu unrhyw un a welodd y modd yr oedd y naill gerbyd neu'r llall yn cael eu gyrru cyn y digwyddiad, i gysylltu â ni gan ddyfynnu'r cyfeirnod: 2400345160.
Ewch i;
Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
101