Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ffigurau'n dangos gostyngiad o 39.5% yn yr ardal sy'n cwmpasu canol y ddinas, y marina a'r traeth.
Yr haf hwn, lansiodd Heddlu De Cymru Ymgyrch Daylily a welodd staff ychwanegol ar ddyletswydd yn ystod adegau prysur ac ar ddyddiadau pwysig.
Roedd swyddogion yn gweithio'n agos gyda busnesau, yr heddlu, Cyngor Abertawe ac eraill i gynnal sesiynau ymgysylltu wythnosol i bobl ifanc a fu'n boblogaidd iawn.
Meddai Arolygydd Canol Dinas Abertawe Andrew Hedley:
"Mae canlyniadau'r ymgyrch yn dangos gostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol eleni.
"Diolch i ymgyrch yr heddlu, gwelwyd staff ychwanegol yn gweithio yn ystod adegau prysur ac ar ddyddiadau pwysig.
"Yn ogystal, roedd y syniad o ddod â llawer o bartneriaid at ei gilydd ar ddiwrnod yr un yn ystod y 6 wythnos o wyliau yn syniad da iawn."
Drwy weithio gyda'r heddlu, aeth tîm Partneriaeth a Chyfranogaeth y Cyngor ati i gynnal digwyddiadau hamddenol ger hen ganolfan siopa Dewi Sant er mwyn darparu gweithgareddau a man diogel i bobl ifanc fynd iddo.
Meddai Aelod Cabinet y Cyngor dros Gefnogi Cymunedau, Hayley Gwilliam:
"Roedd y digwyddiadau hyn yn llwyddiannus iawn a hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn rhan o'u trefnu."