Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymgyrch gan y Tîm Troseddau Cyfundrefnol i fynd i'r afael â chyflenwyr llinellau cyffuriau yng Nghaerdydd wedi bod yn llwyddiant.
Ers dechrau mis Gorffennaf, cafodd gwarantau o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau eu gweithredu ledled dinas Caerdydd, gan arwain at y canlynol:
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tim Jones:
“Rydym wedi gweithredu ar gudd-wybodaeth rydym wedi bod yn ei datblygu ers peth amser ac wedi llwyddo i chwalu busnes 21 o linellau cyffuriau ers dechrau'r mis. Mae ditectifs bellach yn gweithio'n galed i garcharu pawb sy'n ymwneud â gweithrediadau llinellau cyffuriau. O'r 25 o bobl a arestiwyd, mae 17 ohonynt eisoes wedi cael eu cyhuddo o droseddau sy'n ymwneud â chyffuriau. Mae chwech o'r rheini wedi pledio'n euog yn gynnar a byddant yn cael eu dedfrydu fis nesaf. Mae ein gweithredoedd mis yma wedi tynnu sawl deliwr cyffuriau oddi ar strydoedd Caerdydd.”
Llinellau cyffuriau yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio achos o ddelio mewn cyffuriau lle caiff ffonau symudol eu defnyddio i gyflenwi cyffuriau o ddinasoedd mawr i drefi ac ardaloedd gwledig. Caiff llinellau cyffuriau eu rhedeg gan 'Ddalwyr Llinellau' ac mae'r rhedwyr, sy'n aml yn bobl agored i niwed, yn dosbarthu'r cyffuriau. Mae'r system o ddosbarthu cyffuriau yn arwain at drais difrifol a chamfanteisio
Mae nifer helaeth o'r rhai a arestiwyd wedi cael eu cyhuddo ac eisoes wedi pledio'n euog yn y llys – byddant yn cael eu dedfrydu fis nesaf.
Mae gan Heddlu De Cymru ddull gweithredu dim goddefgarwch at ddelio mewn cyffuriau, a dim ond un enghraifft yw'r achos hwn o'r ffordd rydym yn mynd i'r afael ag achosion o ddelio mewn cyffuriau yn y gymuned.
Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â ni.
Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am achosion o ddelio mewn cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â ni.