Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion yr heddlu sydd wrthi'n ymchwilio i gyfres o ddigwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol, lle cafodd cerbydau'r heddlu eu targedu, wedi gorfod gwneud nifer o arestiadau yn ardal Gabalfa yng Nghaerdydd yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Yn gynnar y bore yma (Ddydd Sul 21 Gorffennaf), cafodd dyn 22 oed o'r Tyllgoed ei arestio yn ardal Pilgwenlli yng Nghasnewydd ar amheuaeth o affräe, meddu ar arf ymosodol, a throseddau cyffuriau amrywiol.
Cafodd nifer o eitemau eu hadfer yn y cyfeiriad gan gynnwys machete, symiau o ganabis a swm mawr o arian parod.
Atafaelwyd nifer sylweddol o enillion troseddau hefyd lle cafodd bagiau, dillad ac esgidiau rhedeg drudfawr eu symud o'r eiddo.
Cafodd dau arestiad pellach eu gwneud y bore yma. Mae dyn a menyw, y ddau'n 20 oed o ardal Gabalfa wedi cael eu harestio ar amheuaeth o fod â chanabis yn eu meddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi.
Yn y cyfeiriad hwn, atafaelwyd cyllell hela yn ogystal â symiau mawr o arian parod, canabis a thân gwyllt, y credir iddynt fod yn gysylltiedig â digwyddiad cynharach lle cafodd cerbydau eu targedu yn yr ardal.
Cafodd dau e-feic Sur-Ron eu hatafaelu gan swyddogion hefyd, y credir iddynt fod yn gysylltiedig â digwyddiadau lle cafodd cerbydau'r heddlu eu targedu.
Dywedodd yr Arolygydd Plismona Lleol, Ben Davies:
"Neithiwr, bu tîm cymdogaeth y Tyllgoed yn gweithio tan yn hwyr i gael gwarant brys sydd wedi arwain at arestiadau heddiw.
"Cawsant eu cefnogi gan y Tîm Cymorth Tiriogaethol ac eraill o'r is-adran yng Nghaerdydd.
"Rydym wedi bod yn cynnal patrolau gwelededd uchel yn ddiweddar gyda chymorth gan swyddogion ar geffylau a'r unedau traffig.
"Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pawb yn gallu teimlo'n ddiogel yng nghyffiniau Gabalfa heb gael eu dychryn, a byddwn yn parhau i weithio'n ddiflino i ddal y rheini sy'n achosi problemau."