Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae chwe aelod o grwpiau troseddau cyfundrefnol wedi cael dedfrydau sy'n gyfanswm o 50 o flynyddoedd yn Llys y Goron Caerdydd am gyfres o droseddau yn ymwneud â chyffuriau.
Cafodd pedwar dyn a dwy wraig eu dwyn gerbron y Llys yn dilyn ymchwiliadau cymhleth a ddatblygodd o Ymgyrch Venetic – ymchwiliad cenedlaethol yn dilyn cyfaddawd cyfreithlon Encrochat, sef rhwydwaith negeseua wedi'i amgryptio a ddefnyddir gan gangiau troseddau cyfundrefnol yn bennaf.
Canolbwyntiodd Ymgyrch Soros ar grŵp troseddau cyfundrefnol wedi'i leoli yng Nghaerdydd a oedd dan arweiniad Luke Mattan, 35 oed, o Lanisien yng Nghaerdydd, a ddefnyddiodd Encrochat i gydlynu ei weithgareddau cyflenwi cyffuriau.
Aelod arall o'r grŵp oedd Saswal Abdullah, 27 oed, o'r Tyllgoed, a gafodd ei ddisgrifio gan Mattan ei hun fel ei “ddyn llaw dde”, ac roedd am gymryd drosodd y grŵp troseddau cyfundrefnol yn y pen draw er mwyn galluogi Mattan i wahanu ei hun oddi wrth y gwaith o redeg y grŵp o ddydd i ddydd.
Plediodd y ddau yn euog i'w rhan yn cyflenwi 12 cilogram o gocên.
Cynllwyniwr arall oedd brawd Luke, Jordan Mattan, 32 oed, a gafwyd yn euog o ddosbarthu tua 600g o gocên i gyfeiriad yn y Porth ym mis Mawrth 2020 ar ran y grŵp troseddau cyfundrefnol.
Cafwyd Carla Trace, 43 oed, o'r Tyllgoed, hefyd yn euog yn dilyn treial o gasglu pum cilogram o gocên o gyflenwr wedi'i leoli yn Llundain pan oedd cyfnod clo COVID-19 ar ei anterth. Llogodd Trace gerbyd a gwisgo lifrai gofalwr mewn ymgais i ddarbwyllo unrhyw un bod angen iddi deithio, ond cafodd ei herio gan yr awdurdodau. Llwyddodd y grŵp troseddau cyfundrefnol hefyd gaffael tystysgrifau teithio COVID-19 ffug a oedd wedi cael eu dosbarthu i staff y GIG.
Plediodd Kirsty Mattan, chwaer Luke, yn euog i droseddau gwyngalchu arian ac i fod yn rhan o gasglu a dosbarthu arian cyffuriau ar ran grŵp troseddau cyfundrefnol ei brawd.
Plediodd Joseph Thomas-Mullen, 49 oed, o Cathays a oedd yn rhan amlwg o ymwneud Luke Mattan yn Lerpwl, yn euog i fod yn rhan o'r cynllwyn a bydd yn cael ei ddedfrydu ym mis Medi.
Roedd Ymgyrch Montgomery yn ymchwiliad cyflenwi cyffuriau dosbarth A i grŵp troseddau cyfundrefnol wedi'i leoli yn y Porth a gynhaliwyd yn 2019. Daethpwyd o hyd i dystiolaeth bellach o'r cynllwyn pan ganfuwyd negeseuon Encrochat a oedd wedi cael eu hanfon gan brif aelod o'r grŵp troseddau cyfundrefnol, Craig Anthony, 34 oed, fel rhan o Ymgyrch Venetic.
Plediodd Anthony yn euog i'w rôl arweiniol yn cyflenwi cyffuriau Dosbarth A yn ardal De Cymru, a oedd yn cynnwys cyflenwi o leiaf 65 cilogram o gocên â gwerth amcangyfrifedig o rhwng £6 a £7 miliwn ar y stryd.
Cafodd aelodau eraill o'r grŵp troseddau cyfundrefnol eu cael yn euog o'u rolau yn flaenorol.
Plediodd Paul Jones, 35 oed, yn euog i droseddau gwyngalchu arian, a'i rôl yn casglu dyledion cyffuriau ar ran Anthony wrth iddo geisio dianc rhag cyfiawnder yn Sbaen.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jonathan Evans:
“Megis rhan fach o'r gwaith rydym yn ei wneud er mwyn gwneud De Cymru yn amgylchedd gelyniaethus i droseddau cyffuriau yw llwyddiant yr ymchwiliadau hyn.
“Bu hon yn ymgyrch ddwys, a fu'n llwyddiannus oherwydd cydweithrediad y gwahanol heddluoedd ac asiantaethau ledled y DU.
“Byddwn yn parhau i fynd i'r afael â'r trallod y mae cyffuriau yn ei achosi i'n cymunedau. Mae llwyddiant yr ymchwiliadau hyn yn dangos ein bod yn benderfynol o ymlid y rhai sy'n ymwneud â throseddau ar raddfa fawr, er mwyn sicrhau cyfiawnder yn erbyn unigolion o'r fath a'u dwyn gerbron y Llys.
“Os byddwch yn amau bod pobl yn delio mewn cyffuriau neu os byddwch yn poeni bod person ifanc neu oedolyn sy'n agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grŵp troseddau cyfundrefnol, rhowch wybod i ni. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.
“Ffoniwch ni ar 101, neu gallwch gysylltu â Crimestoppers i roi gwybod yn ddienw os byddai'n well gennych wneud hynny – ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. Os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol neu os yw trosedd yn mynd rhagddi, dylech ffonio 999 bob amser.”
Ddydd Gwener 19 Gorffennaf, rhoddwyd y dedfrydau canlynol:
Craig Anthony, 34 oed – 18 mlynedd 6 mis.
Paul Jones, 35 oed – 4 mis.
Luke Mattan, 30 oed – 15 mlynedd 8 mis.
Jordan Mattan, 32 oed – 5 mlynedd am gynllwynio, a 2 flynedd am achos arall o gyflenwi cocên pan oedd ar fechnïaeth. Cyfanswm dedfryd o 7 mlynedd.
Carla Trace, 43 oed – 7 mlynedd.
Kirsty Mattan, 34 oed – dedfryd o 12 mis wedi'i gohirio am 18 mis.
Saswal Abdullah – I'w ddedfrydu ar 29/07/24.
Joseph Thomas-Mullen – I'w ddedfrydu ar 24/09/24.