Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Richard Sullivan ei arestio gan swyddogion mewn dillad plaen oedd ar batrôl yn Nhrelái, Caerdydd.
Roedd y swyddogion yn amau eu bod wedi gweld dêl cyffuriau ger Gough Road rhwng dyn ar feic a theithwyr mewn car.
Cafodd y car ei stopio ar Wheatley Road a gwelwyd bod gan deithwyr y car swm o heroin.
Gwelwyd y beiciwr yn mynd i mewn i floc o fflatiau ar Ogmore Road, Caerau ac yna'n gadael. Cafodd Sullivan, 44 oed ei arestio a datgelodd chwiliad o'i fflat dystiolaeth glir bod yr eiddo yn cael ei ddefnyddio i baratoi crac cocên. Atafaelwyd arian parod ac arfau hefyd.
Nodwyd bod drws ffrynt y fflat wedi'i gyfnerthu'n helaeth gyda gwialenni dur a bracedi metel, ac roedd sawl camera teledu cylch cyfyng, yr oedd rhai ohonynt wedi'u cuddio.
Plediodd Sullivan yn euog i ymwneud â chyflenwi cyffuriau a chafodd ei ddedfrydu i 42 mis yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd, ddydd Gwener 12 Gorffennaf.
Dywedodd PC Daniel Davies o Heddlu De Cymru:
"Nid oes rheswm arall dros gyfnerthu eiddo heblaw bod gweithgarwch anghyfreithlon yn mynd rhagddo yno.
"Roedd Sullivan wedi mynd i gryn ymdrech i addasu'r fflat yr oedd yn ei rentu at ddiben atal yr heddlu rhag mynd i mewn. Mae hyd yn oed wedi gosod camerâu diogelwch ar flaen ac ôl y tŷ a hyd yn oed wedi gosod camerâu ysbïo ym mhibellau dŵr coridor cymunedol y bloc o fflatiau. Ni fyddech byth wedi sylwi bod y camerâu yno oni bai eich bod wedi gweld y teledu cylch cyfyng ar y monitor yn y fflat. Rhoddwyd gwybod am hyn i Gyngor Caerdydd."
Mae gan Heddlu De Cymru ddull gweithredu dim goddefgarwch mewn perthynas â delio mewn cyffuriau, a dim ond un enghraifft yw'r gwaith rydym yn ei gyflawni.
Ni fyddwn yn goddef cyffuriau yn ein cymunedau, ac rydym yn targedu'r rhai y credir eu bod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau a reolir yn barhaus.
Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu a gweithio â ni.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.