Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Terrence Roderick a'i gyd-droseddwr Clifford Plummer eu darganfod dan ddylanwad alcohol a neu gyffuriau, yn y car a gafodd ei ddwyn a oedd wedi parcio ar Stryd Angelina, Butetown.
Cadarnhawyd bod y car, Kia Rio, wedi'i ddwyn o dŷ yn Llanisien ar 19 Ionawr.
Cafodd y ddau ddyn eu harestio, a chanfuwyd DNA Roderick ar handlen drws tŷ ym Mhen-y-lan y torrwyd i mewn iddo'r diwrnod blaenorol.
Cafwyd hyd i'r Ford B-Max a gafodd ei ddwyn o'r cyfeiriad ym Mhen-y-lan yn ddiweddarach.
Plediodd Roderick, o'r Rhath, yn euog i fwrgleriaeth, i ddwyn cerbyd modur, ac i drin nwyddau a oedd wedi’u dwyn.
Plediodd Plummer, o Lanisien, yn euog i drin nwyddau a oedd wedi'u dwyn. Clywodd y llys fod gan Roderick record "anhygoel" o gyflawni 40 o droseddau o fwrgleriaeth ac yn flaenorol cafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd yn y carchar am fwrgleriaeth.
Cafodd Roderich ei ddedfrydu i bedair blynedd o garchar a chafodd Plummer ei ddedfrydu i 15 mis o garchar.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Gwnstabl Molly Thomas: “Aeth y dioddefwyr drwy brofiad ymwthiol iawn, ar ôl i fwrgler fynd i mewn i'w chyfeiriad cartref tra roeddent yn cysgu. Gobeithio bod y ffaith bod Plummer a Rodderick wedi'u cael yn euog a'u dedfrydu yn rhoi cyfiawnder iddynt a'r hyn y gwnaethant ei brofi.”