Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd a ddigwyddodd ar Barry Road, Dinas Powys yn oriau mân bore Sul 14 Gorffennaf wedi cael ei enwi fel Connor Ockerby, 20 oed, o'r Barri.
Mae ei deulu wedi talu'r deyrnged ganlynol iddo:
“Bu farw ein bachgen hyfryd Connor yn drasig mewn damwain car fore Sul. Roeddem yn ei garu'n fawr – ei Fam, ei Dad, a'i frawd Dean, ei gariad Courtney, ei fodryb Karen a'i ewythr Neil, a'i ewythrod Richard, David a Michelle a'r teulu.Roedd ei holl deulu ehangach yn ei garu, a'i ffrindiau lu, a chwaraeodd ran enfawr yn ei fywyd, a phawb a oedd yn ei adnabod.
“Rydym wedi cael ein llorio'n llwyr ar ôl colli ein bachgen hyfryd. Ni fyddwn byth yn dod dros hyn, a bydd ei farwolaeth yn gadael bwlch enfawr yn ein bywydau ni a bywydau ei ffrindiau lu.
“Gofynnwn am breifatrwydd ar hyn o bryd, tra rydym yn ceisio delio â'n colled, a gofynnwn i bobl beidio â dyfalu ynghylch y ddamwain tra bydd yr ymchwiliad yn mynd rhagddo.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad a oedd yn cynnwys Ford Fiesta llwyd a ddigwyddodd tua 3.50am fore Sul (14 Gorffennaf).
Mae'r swyddogion yn apelio ar unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad, unrhyw un sydd â deunydd fideo o gamera dashfwrdd neu unrhyw un a welodd y modd yr oedd y car yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw gan ddyfynnu cyfeirnod 2400233554.
Ewch i: