Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am droseddau rhyw a gyflawnwyd ar blentyn yn yr 1990au.
Cysylltodd ei ddioddefwr â'r heddlu ddegawdau'n ddiweddarach yn 2021 a ddydd Iau (25 Gorffennaf), cafodd ei garcharu.
Ymddangosodd Peter White, 63 oed, o'r Tyllgoed, Caerdydd, gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau (25 Gorffennaf) lle cafodd ei garcharu am 38 mis.
Yn gynharach, roedd wedi cael ei ganfod yn euog o gyflawni dau achos o anwedduster difrifol yn dilyn treial.
Cafodd White ei wneud yn destun Gorchymyn Atal, gan ei wahardd rhag cysylltu â'r dioddefwr neu gyfeirio ati mewn unrhyw ffordd ar-lein, yn ogystal â Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am 10 mlynedd.
Clywodd y llys sut y magodd berthynas amhriodol â'i ddioddefwr, a gysylltodd â'r heddlu ddegawdau yn ddiweddarach yn 2021 i roi gwybod am ei droseddau.
Dywedodd y Rhingyll Steve Gunney, o'r Tîm Ymchwilio i Achosion o Dreisio:
"Mae'r dioddefwr yn yr achos hwn wedi dangos dewrder eithriadol drwy gysylltu â'r heddlu. Mae hi wedi dioddef proses hir ac anodd, ond wedi dod drwyddi gyda chymorth gwerthfawr gan Gynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVA)
"Mae'r euogfarn a'r ddedfryd hon yn enghraifft arall pam nad yw byth yn rhy hwyr i ddioddefwyr troseddau rhywiol gysylltu â'r heddlu. Byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr ac yn eu cefnogi'n llawn ar hyd y ffordd. Ni ddylai cyflawnwyr troseddau rhywiol allu osgoi cael eu dal am eu troseddau, ni waeth pryd y cawsant eu cyflawni. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o ddioddefwyr i roi gwybod am droseddau.”
Os ydych wedi dioddef trosedd rywiol, mae swyddogion Heddlu De Cymru, ynghyd â gweithwyr cymorth arbenigol, yn barod i wrando arnoch a'ch helpu.