Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gwariodd Marcell Bridgeman £170k ar chwe cilo o gocên, ond daeth ei drefniadau cyflenwi cyffuriau i ben pan gynhaliwyd chwiliad dan warant yn y Tyllgoed, Caerdydd.
Ceisiodd gael gwared ar ei ffonau symudol, a oedd yn cynnwys tystiolaeth allweddol, drwy eu taflu o ffenestr llawr cyntaf ei dŷ pan dorrodd swyddogion i mewn.
Arestiwyd Bridgeman yn ei ystafell wely, daethpwyd o hyd i'w ffonau ac atafaelwyd yr eitemau canlynol o'i dŷ:
* £11.5k mewn arian parod
* Canabis oedd â gwerth rhwng £5,900 a £11,780.
Dillad ac ategolion cynllunydd, gan gynnwys pedwar pâr o esgidiau Valentino, tri bag Louis Vuitton a dau bâr o esgidiau Balenciaga.
Ar ôl i swyddogion gael gafael ar ffonau symudol Bridgeman o'i ardd, gwelwyd ei fod wedi gwario £170k ar chwe cilo o gocên a'i fod wedi'i werthu er mwyn elwa'n ariannol.
Yn ystod ei gyfweliad, atebodd y dyn 23 oed bob cwestiwn gyda "dim sylw", ond yn ddiweddarach, plediodd yn euog i fod â chocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi a bod â chanabis yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi.
Arestiwyd Bridgeman ar 5 Rhagfyr 2023, ac ar 21 Mehefin 2024, cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd i 7 mlynedd a 4 mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Ringyll, Dominic Belotti, o Heddlu De Cymru: “Mae gan Heddlu De Cymru ddull gweithredu dim goddefgarwch mewn perthynas â delio mewn cyffuriau, a dim ond un enghraifft yw'r gwaith rydym yn ei gyflawni.
“Ni fyddwn yn goddef cyffuriau yn ein cymunedau, ac rydym yn targedu'r rhai y credir eu bod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau a reolir yn barhaus.
“Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu a gweithio â ni.”
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Rhowch Wybod Ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📞 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.