Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae un o gyn-swyddogion Heddlu De Cymru wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gyflawni troseddau yn cynnwys bwrgleriaeth a llygredd yn yr heddlu.
Cafodd ymddygiad troseddol y cyn-Ringyll Ben Cooke ei ddatgelu gan ymchwiliad yn dilyn adroddiad am fwrgleriaeth yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr a thystiolaeth yn ei gysylltu â'r drosedd.
Dangosodd ymchwiliadau pellach ei fod hefyd wedi gwneud ymgais i dorri i mewn i dŷ, wedi dwyn allwedd drws ffrynt o dŷ ac wedi camddefnyddio systemau cyfrifiadurol yr heddlu.
Ymddangosodd Cooke gerbron Llys y Goron Caerdydd a phlediodd yn euog i fwrgleriaeth, ymgais i dorri i mewn i dŷ, lladrata, camddefnyddio systemau cyfrifiadurol yr heddlu a llygredd yn yr heddlu.
Heddiw cafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd a phedwar mis
Cyn ei euogfarnau, ymddiswyddodd Cooke ddeuddydd cyn Gwrandawiad Camymddwyn Carlam ar 25 Ebrill wedi'i gadeirio gan y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan.
Yn ystod y gwrandawiad, wynebodd Cooke honiad o gymryd allwedd drws ffrynt o gartref aelod o'r cyhoedd yr oedd wedi ymweld ag ef wrth gyflawni ei ddyletswyddau. Daethpwyd o hyd i'r allwedd yn ddiweddarach mewn bag yn ei gyfeiriad cartref na allai roi cyfrif amdano. Canfu Mr Vaughan fod yr honiad yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol a chyflwynodd y gosb o ddiswyddo heb rybudd pe bai'r swyddog wedi bod yn gwasanaethu o hyd. Gohiriwyd cyhoeddi canlyniad y gwrandawiad hwn tra'n aros am ganlyniad yr achosion troseddol.
Dywedodd Mr Vaughan: "Mae Ben Cooke wedi ei siomi ei hun ac wedi siomi gwasanaeth yr heddlu yn ofnadwy, ac mae wedi dinistrio unrhyw ymddiriedaeth yr oedd gan gymunedau De Cymru ynddo fel swyddog yr heddlu. Mae ei ymddygiad yn gwbl annerbyniol.
"Mae'r ffaith ei fod wedi mynd i gartref aelod o'r cyhoedd pan ddylai fod wedi bod yn ei gefnogi ar adeg anodd ac wedi cymryd ei allwedd drws ffrynt yn fath o ymddygiad sydd bron yn amhosibl ei fesur – mae'n aruthrol o wael.
"Mae swyddogion yr heddlu yn meddu ar wybodaeth breifat ac maent yn dod i gysylltiad â phobl sy'n aml mewn argyfwng ac y mae angen cymorth arnynt. Mae'r ffaith bod y cyn-swyddog hwn wedi cymryd mantais ar ei rôl freintiedig yn gywilyddus.
“Mae'r mwyafrif llethol o'r 6,000 a mwy o swyddogion a staff sy'n gweithio i Heddlu De Cymru yn ymddwyn yn berffaith ac yn gweithio'n ddiflino i ddiogelu'r cyhoedd. Mae'r nifer prin iawn ohonynt sy'n dewis mynd yn groes i'r safonau a ddisgwylir ganddynt yn tanseilio hyder y cyhoedd mewn plismona. Ni chaiff y math hwn o ymddygiad ei dderbyn gan Heddlu De Cymru.”
Mae Mr Vaughan wedi ysgrifennu llythyr ymddiheuro personol at ddioddefwr bwrgleriaeth Cooke, gan ddweud: "Rwy'n gwaredu at ei weithredoedd ac mae'n ddrwg iawn gennyf am y profiad a gawsoch oherwydd ymddygiad unigolyn a oedd yn gwasanaethu fel un o swyddogion yr heddlu.
"Mae'n bryderus iawn ac yn gwbl annerbyniol eich bod wedi dioddef trosedd yn eich cartref eich hun yn nwylo rhywun a oedd wedi'i gyflogi i’ch amddiffyn a chynnal y gyfraith. Dylid gallu ymddiried yn llwyr yn swyddogion yr heddlu ac mae gweithredoedd y swyddog hwn wedi bradychu'r ymddiriedaeth honno'n ddifrifol; mae ei weithredoedd yn tanseilio popeth rydym yn sefyll drosto fel gwasanaeth yr heddlu."