Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn gynharach eleni, gwnaethom bostio llun teledu cylch cyfyng o ddyn roeddem yn chwilio amdano mewn cysylltiad â lladrad yn Nhreganna, Caerdydd.
Diolch i wybodaeth gan y cyhoedd, cafodd James Crook, a elwir yn Jay, ei adnabod a'i arestio am ladrad.
Brynhawn 9 Chwefror 2024, gwyliodd Crook fenyw 41 oed yn codi swm sylweddol o arian o'r peiriant arian ar Delta Street.
Yna, dilynodd y fenyw i Albert Street lle cipiodd ei bag, gan achosi iddi ddisgyn i'r llawr, a rhedodd i ffwrdd i stad o dai cyfagos.
Daethpwyd o hyd i fag y fenyw, ond roedd ei £500 ar goll.
Cafodd Crook ei adnabod yn dilyn apêl am wybodaeth teledu cylch cyfyng a chafodd ei arestio ar 5 Mai yng Nghaerau.
Mewn datganiad, disgrifiodd y dioddefwr effaith y digwyddiad arni:
“Rwyf wedi fy llorio'n llwyr. Mae wedi newid fy mywyd ac yn effeithio arnaf bob dydd. Rwy'n cael ôl-fflachiadau o'r digwyddiad. Rwy'n aml yn meddwl ei fod yn dal i redeg ar fy ôl”.
"Roeddwn yn bwriadu defnyddio'r arian y gwnaeth ei ddwyn oddi arnaf i dalu fy miliau a darparu ar gyfer fy nheulu. Doeddwn i ddim yn gallu gwneud y pethau hynny mwyach, gan olygu fy mod yn teimlo'n euog iawn.
“Mae'r digwyddiad hwn wedi cael effaith fawr ar fy mywyd o ddydd i ddydd. Cyn hyn, roeddwn yn arfer mwynhau mynd i Dreganna er mwyn mynd i'r siopau, ac roeddwn yn gyfeillgar iawn gyda pherchnogion rhai o'r siopau, ond ers i hyn ddigwydd, dydw i ddim yn gallu gadael y tŷ na gwneud pethau roeddwn yn arfer mwynhau eu gwneud”.
Plediodd Crook yn euog i ladrad ac ar 28 Mehefin, cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd i 44 mis yn y carchar.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Gwnstabl Sophie Joseph: “Rydym yn gobeithio y bydd canlyniad ein hymchwiliad yn rhoi rhywfaint o gysur i'r fenyw hon ac yn rhoi sicrwydd i'r gymuned ehangach o ran ein hymrwymiad i ymchwilio i droseddau treisgar.
“Hoffem ddiolch i'r rhai sydd wedi cysylltu â ni mewn ymateb i'r apêl am wybodaeth teledu cylch cyfyng ac a helpodd i ddwyn Crook o flaen ei well. Dyma enghraifft dda o'r heddlu a'r gymuned yn cydweithio i helpu i gadw ein dinas yn ddiogel."