Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a benderfynodd ffoi o leoliad gwrthdrawiad lle roedd menyw wedi'i hanafu'n angheuol wedi cael ei anfon i'r carchar ar ôl ymddangos yn Llys y Goron Merthyr Tudful heddiw (dydd Mercher 17 Gorffennaf).
Dedfrydwyd Cameron Jones, 30 oed o Swansea Road, Merthyr Tudful, i 10 mlynedd yn y carchar a chafodd ei wahardd rhag gyrru am 10 mlynedd.
Ddydd Gwener 5 Ebrill, roedd Jones yn gyrru Audi ar hyd Swansea Road pan wrthdarodd â wal gardd.
Bu farw Demi Mabbitt, 25 oed, o Aberfan o ganlyniad i'r anafiadau a gafodd yn y gwrthdrawiad.
Ar ôl osgoi cael ei arestio am dair wythnos cafodd Jones ei arestio a'i gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, achosi marwolaeth drwy yrru cerbyd heb drwydded/yswiriant, methu stopio ar ôl gwrthdrawiad traffig ffordd, methu rhoi gwybod am wrthdrawiad traffig ffordd ac achosi marwolaeth tra roedd wedi ei wahardd rhag gyrru.
Dywedodd Ditectif Ringyll Hobrough, Swyddog Ymchwiliadau i Wrthdrawiadau Difrifol: "Roedd Demi Mabbitt yn gorwedd yn marw ar ochr y ffordd a gwnaeth Jones y penderfyniad didostur i ffoi o leoliad y gwrthdrawiad heb geisio ei helpu.
"Mae'r modd trasig y bu farw Demi wedi ysgwyd y gymuned gyfan.
"Roedd gweithredoedd Cameron Jones ar 5 Ebrill yn ofnadwy ac ni lwyddodd i ddianc rhag cyfiawnder.
"Bydd y ddedfryd heddiw yn golygu y bydd Jones yn y carchar ac ni fydd yn gallu achosi niwed pellach."
Ar ôl y ddedfryd, dywedodd teulu Demi Mabbitt:
"Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod anodd arall yn ein colled enbyd.
Ni fydd unrhyw ddedfryd yn ddigon i sicrhau cyfiawnder am farwolaeth Demi, ein merch hyfryd.
Dim ond 25 oed oedd Demi, ac roedd ei bywyd cyfan o'i blaen. Roedd Demi mor garedig ac anhunanol. Roedd ganddi galon fawr, gwên hyfryd a chwerthiniad heintus.
Roedd Demi yn ffrind gorau i'w mam ac yn gannwyll llygad ei thad. Roedd yn chwaer iau i Gemma, Ben a Jordan, yn chwaer hŷn i Callie a Keisha ond yn feistr ar bob un ohonynt. Roedd ei nith a'i neiaint yn cael eu sbwylio'n llwyr ganddi ac roedd yn meddwl y byd ohonynt. Nid oedd unrhyw beth yn ormod o drafferth iddi. Mae ein teulu wedi torri.
Hoffem ddiolch i Heddlu De Cymru am eu hymdrechion a'u cymorth drwy gydol y cyfnod hwn. Hoffem ddiolch yn arbennig i'n swyddog cyswllt teuluol PC Saunders sydd wedi cefnogi ein teulu â'r parch a'r tosturi mwyaf ar adeg anoddaf ein bywydau.
Rydyn ni'n dy garu di am byth Dems"