Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r Gwasanaeth Rhoi Gwybod am Negeseuon E-bost Amheus bellach wedi cael gwybod am fwy na 32 miliwn o negeseuon e-bost amheus ers iddo gael ei lansio yn 2020 gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a Heddlu Dinas Llundain.
Mae'r adroddiadau wedi arwain at fwy na 329,000 o gyfeiriadau gwe yn cael eu dileu gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.
Hefyd, rhoddwyd gwybod i 7726 am nifer enfawr o negeseuon testun, ac mae degau ar filoedd o wefannau maleisus wedi cael eu dileu o ganlyniad i hynny.
Mae rhoi gwybod i 7726 – sy'n sillafu “spam” ar fysellbad alffaniwmerig – yn wasanaeth am ddim a gynigir gan ddarparwyr rhwydweithiau symudol, gan alluogi cwsmeriaid i roi gwybod am negeseuon testun amheus. Mae hyn yn helpu i atal eraill rhag eu derbyn hefyd.
Dywedodd Claire Webb, Dirprwy Bennaeth Action Fraud:
“Pan fydd twyllwyr yn gwe-rwydo am wybodaeth werthfawr, gallai unrhyw un fod yn darged. Byddant yn bachu ar ddioddefwyr diarwybod drwy anfon e-bost sy'n ymddangos yn ddilys, mewn ymgais i'w cael i rannu gwybodaeth bersonol, neu fanylion banc.
“O flwyddyn i flwyddyn, mae nifer y bobl sy'n rhoi gwybod am negeseuon testun ac e-bost gwe-rwydo yn tyfu. Mae Action Fraud yn annog pawb i fod yn arbennig o wyliadwrus o negeseuon e-bost sy'n ymddangos yn amheus yn cyrraedd eu mewnflwch, a allai gynnwys dolenni maleisus sy'n arwain at wefannau anhysbys.
“Cofiwch, os ydych chi'n meddwl eich bod wedi derbyn neges destun neu e-bost gwe-rwydo, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni. Gallwch anfon negeseuon e-bost ymlaen i [email protected], neu anfon negeseuon testun sgam ymlaen i 7726.”
'Gwe-rwydo' yw pan fydd troseddwyr yn defnyddio e-byst, negeseuon testun, codau QR, neu alwadau ffôn sgam i dwyllo dioddefwyr. P'un a yw'n e-bost yn gofyn i chi "gadarnhau" manylion eich cyfrif, neu neges destun yn honni eich bod wedi methu rhywbeth yn cael ei ddosbarthu a bod rhaid i chi dalu ffi ailddosbarthu, mae'r nod fel arfer yr un peth – eich twyllo i ddatgelu eich gwybodaeth bersonol ac ariannol.
Er enghraifft, collodd doctor o Lundain fwy na £150 ar ôl cael e-bost ffug yn honni ei fod wedi'i anfon gan y sefydliad Trwyddedu Teledu. Honnodd yr e-bost fod angen i'r doctor adnewyddu ei thrwydded deledu cyn gynted â phosibl. Yr hyn a wnaeth yr e-bost gwe-rwydo mor gredadwy oedd bod trwydded deledu'r dioddefwr wedi dod i ben yn ddiweddar ac arweiniodd y ddolen yn yr e-bost at wefan Trwyddedu Teledu ffug a oedd yr un fath â'r un go iawn.
Ein cyngor:
|