Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Da iawn i'r holl feicwyr a gymerodd ran yn Nhaith Undod flynyddol yr Heddlu y penwythnos diwethaf i godi arian ar gyfer elusen Care of Police Survivors (COPS).
Roedd tua 50 o feicwyr o Gymru ymysg y rhai a gymerodd ran yn y daith o Aberystwyth i Swydd Stafford ar ran COPS – sy'n cefnogi teuluoedd swyddogion a staff yr heddlu a fu farw wrth wasanaethu.
Daeth y daith i ben yn yr Ardd Goed Goffa Genedlaethol, safle coffa cenedlaethol, i gyd-fynd â gwasanaeth coffa cenedlaethol. Roedd y gwasanaeth yn cynnwys myfyrdodau gan dri goroeswr a ddisgrifiodd effaith marwolaethau eu hanwyliaid arnynt.
Roedd y garfan o Gymru yn cynnwys Daisy Godfrey, merch y diweddar PC Ian Godfrey o Heddlu De Cymru, a fu farw yn 1999, a'n Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Richard Jones, a oedd ymysg y rhai a gymerodd ran yn y daith:
“Dechreuwyd y Daith Undod er mwyn helpu i godi'r arian y mae angen dybryd amdano er mwyn darparu'r cymorth gwerthfawr i'r rhai sydd ei angen fwyaf.
“Mae hefyd yn ffordd wych o ddangos i'r goroeswyr, ac i ni ein hunain, na fyddwn byth yn anghofio am y rhai a fu farw wrth wasanaethu eu cymunedau.”
Ychwanegodd y Ditectif Uwch-arolygydd Jones:
“Diolch i bawb sydd wedi cefnogi'r Daith Undod o Dde Cymru, gan gynnwys y rhai a fu'n beicio – gan sicrhau ein bod, fel heddlu, yn parhau i ddangos i'r goroeswyr na fyddwn byth yn anghofio am eu hanwyliaid, y cydweithwyr a'r ffrindiau rydym wedi'u colli.”