Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri dyn o Abertawe wedi cael eu carcharu am ymgymryd â gweithgarwch cyffuriau anghyfreithlon.
Cafodd Benjamin Simons, sy'n 31 oed ac o Bortmead, a Leon Simons sy'n 33 oed ac o Flaenymaes, eu harestio ar ôl i bedwar gwarant Adran 8 gael eu cyflawni, lle cafodd symiau enfawr o gocên – 1.7kg – yn ogystal ag arian parod – eu hatafaelu. Daethpwyd o hyd i glorian ar gyfer pwyso cyffuriau yn ogystal â chyllell fawr yn ystod y gwarantau.
Canfuwyd bod uned yn Fforestfach a oedd yn cael ei defnyddio gan y brodyr yn cynnwys eitemau fel peiriant hydrolig cocên, jet-sgi, a beiciau cwad.
Cafodd Leon a Benjamin Simons eu dedfrydu i chwe blynedd yn y carchar yn Llys y Goron Abertawe.
Yn ystod un o'r gwarantau, daethpwyd hefyd o hyd i Callum Regan, 25 oed o'r Hafod – brawd Benjamin a Leon Simons. Daethpwyd o hyd i ffôn Regan a oedd yn cynnwys tystiolaeth o'i gyfraniad yn cyflenwi cyffuriau.
Mae Regan hefyd wedi cael ei ddedfrydu i chwe blynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Thomas Richardson:
"Mae'r dedfrydau diweddar hyn yn profi nad yw'n werth delio mewn cyffuriau, ac na chaiff gweithgarwch o'r math hwn ei oddef yn ein cymunedau.
"Cyflawnodd Benjamin a Leon Simons a Callum Regan eu hymgyrch gyffuriau heb feddwl ddwywaith am ddiogelwch a llesiant eraill – gan gynnwys aelodau o'u teulu eu hunain.
"Byddant nawr yn haeddiannol yn dechrau ar ddedfryd hir yn y carchar, a bydd ein cymunedau'n fwy diogel o ganlyniad i hynny."