Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar 11 Mai 2023, cawsom adroddiad gan CEF y Parc bod pecyn wedi cael ei ollwng o fewn waliau'r carchar oddi ar ddrôn.
Cynhaliodd swyddogion ymholiadau a llwyddo'n gyflym i adnabod car a oedd yn ardal y carchar ar yr adeg y cafodd y pecyn ei ollwng a gwelwyd ei fod yn yr ardal o hyd. Llwyddwyd i dracio'r car a chafodd ei stopio o ganlyniad i hynny. Lucy Adcock, 47 oed, oedd gyrrwr y car. Wrth i swyddogion chwilio'r car, daethpwyd o hyd i ddrôn a'i ffôn symudol. Cafodd Lucy ei harestio ar amheuaeth o gludo eitem waharddedig i'r carchar ac aethpwyd â hi i'r ddalfa.
Yn ystod archwiliad fforensig digidol o'r drôn, nodwyd ei fod wedi cael ei ddefnyddio 23 o weithiau mewn chwe charchar gwahanol yn y DU yn ogystal â'i ddefnyddio i gludo eitemau i CEF y Parc.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Lia Jones, Swyddog yn yr Achos: ”Wrth edrych drwy ffôn Lucy Adcock, gwnaethom lwyddo i adnabod pedwar person arall a oedd, yn ein tyb ni, yn gyfrifol am weithio gyda hi i gludo eitemau gwaharddedig i garchardai eraill yn y DU.
“Ar ôl peth amser, ym mis Mehefin 2023, anfonwyd tîm arestio i Essex a Llundain lle y gwnaethom lwyddo i ddod o hyd i bedwar unigolyn arall a oedd dan amheuaeth a'u harestio. Atafaelwyd eu ffonau symudol, a gwnaethom lwyddo i droshaenu gwybodaeth er mwyn nodi bod pob un o'r pedwar unigolyn wedi bod yn rhan o'r weithred o lywio drôn i garchardai."
Mae ein harbenigwyr ar gyffuriau yn credu y gall fod gwerth bron £1.6 miliwn o eitemau gwaharddedig wedi cael eu cludo i garchardai dros gyfnod o bedair wythnos.
Yr wythnos hon, cafodd yr unigolion canlynol eu dedfrydu;
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Ian Jones: “Dyma'r ymchwiliad cyntaf rydym ni wedi'i ganfod yn Ne Cymru lle y gallwn ddweud bod grŵp troseddau cyfundrefnol wedi cludo eitemau i garchar gan ddefnyddio dronau. Gwelsom yn gyflym, ar ôl edrych ar ei ffôn symudol, mai Lucy Adcock oedd prif aelod y grŵp troseddau cyfundrefnol hwn. Roedd yn amlwg nad hi oedd yn hedfan y drôn ond ei bod yn cyfathrebu ag aelodau eraill o'r grŵp troseddau cyfundrefnol ac yn trefnu pob cyrch.
“Rydym wedi gweld enghreifftiau eraill ar wahân o ddronau yn cael eu defnyddio er mwyn gollwng eitemau, ac fel arfer gallwn ddangos bod cysylltiad rhwng yr unigolyn sy'n hedfan y drôn hwnnw â rhywun yn y carchar. Dangosodd yr ymchwiliad hwn mai grŵp troseddau cyfundrefnol oedd hwn, a bod yr aelodau allan bob yn eilddydd bron yn hedfan neu'n llywio dronau i garchardai er mwyn cludo eitemau gwaharddedig fel cyffuriau, ffonau symudol a chardiau SIM. Mae hyn yn broblem mewn carchardai ledled y DU ar hyn o bryd.
“Mae'r ymchwiliad hwn, yn ogystal â'r dedfrydau dilynol, yn dangos y byddwn yn mynd ar drywydd troseddwyr sy'n bwriadu defnyddio dronau i gludo eitemau i garchardai yn ddiflino. Drwy ein dull rhagweithiol o dargedu'r rhai sy'n hedfan y dronau i'r carchardai, rydym yn anfon neges iddynt y byddwn yn mynd ati i erlyn y rhai sy'n gyfrifol ac yn eu collfarnu.”