Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl marwolaeth dyn 64 oed yn dilyn ymosodiad yn y Station Hotel yng Ngorseinon ddydd Sul, 26 Mai.
Mae Christopher Cooper, sy'n 39 oed o'r Ardal Forwrol yn Abertawe, wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth Kelvin Evans o Orseinon.
Dywedodd teulu Mr Evans:
"Rydym wedi ein llorio gan farwolaeth drist a disynnwyr mab, brawd ac ewythr arbennig, cariadus a doniol a oedd yn ffrind i lawer.
"Rydym yn ceisio dod i delerau â'r sefyllfa a gofynnwn am amser i alaru'n breifat fel teulu."
Dywedodd y Ditectif Arolygydd David Butt:
“Hoffwn ddiolch i aelodau'r gymuned am eu cymorth gyda'r ymchwiliad hwn. Bydd Christopher Cooper yn ymddangos gerbron llys maes o law.
"Mae teulu Mr Evans yn ymwybodol o'r cyhuddiad newydd, ac yn parhau i gael cymorth swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.
“Rydym yn parhau i apelio am unrhyw dystion i'r digwyddiad hwn a oedd naill ai yn y Station Hotel neu'r tu allan i'r eiddo.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu cyfeirnod: 2400172904.
Ewch i:
💬 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📞 101