Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o ardal Castell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gael ei ganfod yn euog o sawl trosedd trais domestig.
Mae Michael White, 33 oed, o Fynachlog Nedd, wedi'i ddedfrydu i dair blynedd o garchar yn dilyn yr ymosodiadau, a ddigwyddodd dros gyfnod o fwy na blwyddyn.
Dywedodd PC Ellen Green:
“Mae Michael White wedi cael dedfryd haeddiannol o garchar ar ôl iddo ymosod ar ei ddioddefwraig sawl gwaith, gan ei hanafu.
"Mae mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth i ni yn Heddlu De Cymru. Ni ddylai neb ddioddef yn dawel - ni chaiff ymddygiad fel hyn ei oddef."
Gall cam-drin domestig effeithio ar unrhyw un ni waeth beth fo'u hethnigrwydd, oed, rhywedd, rhywioldeb, neu gefndir cymdeithasol.
Os ydych chi'n cael eich cam-drin yn gorfforol, yn rhywiol, yn seicolegol neu'n ariannol, neu'n cael eich bygwth neu eich stelcio gan bartner presennol neu gyn-bartner, neu aelod agos o'r teulu, mae'n debygol eich bod yn dioddef cam-drin domestig.
Nid chi sydd ar fai am yr hyn sy'n digwydd. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.
Gallwch gysylltu â ni neu, os nad ydych yn barod i siarad â'r heddlu, gallwch gysylltu â sefydliadau cymorth a all eich helpu.
I gael rhagor o arweiniad ar sut i roi gwybod am gam-drin domestig, dilynwch y ddolen yma:https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cyngor/cyngor-a-gwybodaeth/cam-drin-domestig/cam-drin-domestig/sut-i-riportio-cam-drin-domestig/