Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu yn dilyn euogfarn am sawl achos o stelcio ac aflonyddu.
Cafodd Neal Hancock, 38 oed o Sandfields, orchymyn atal yn flaenorol er mwyn ei atal rhag cysylltu â'i ddioddefwyr, ond torrodd y gorchymyn hwn. O ganlyniad, mae bellach wedi cael ei ddedfrydu i 46 wythnos yn y carchar.
Dywedodd yr Arolygydd Jared Easton:
“Mae Neal Hancock yn droseddwr stelcio cyfresol sydd wedi peri trallod i sawl dioddefwr drwy ei ymddygiad annerbyniol.
"Dangosodd obsesiwn â'i ddioddefwyr, gan wneud iddynt ofni am eu diogelwch."
Mae stelcio ac aflonyddu yn droseddau o dan Ddeddf Gwarchodaeth rhag Aflonyddu 1997.
Gallai rhywun sydd yn eich adnabod fod yn eich stelcio; cyn-bartner neu hen ffrind, neu gall fod yn ddieithryn. Os bydd yn rhywun rydych yn ei adnabod, neu roeddech yn arfer ei adnabod, nid yw hynny'n golygu mai chi sydd ar fai; caiff ei ystyried fel stelcio o hyd ac mae'n drosedd.
Os yw ymddygiad yr unigolyn yn obsesiynol, yn ddigroeso a/neu'n fynych, gallwch roi gwybod am y drosedd neu gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Stelcio Genedlaethol am ragor o gyngor.
Ceir gwybodaeth yma am gymorth i ddioddefwyr stelcio ac aflonyddu: Cymorth i ddioddefwyr stelcio ac aflonyddu | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)