Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Canfuwyd Jay Hume, sy'n 26 oed o West Cross, ar ôl i'w rif ffôn gael ei adnabod mewn cyfathrebiadau ag unigolyn arall a gafodd ei arestio am droseddau cyffuriau ym mis Mehefin.
Datgelodd yr archwiliad o ffôn symudol Hume nifer mawr o negeseuon yn ymwneud â thaliadau am y cocên roedd Hume yn ei gyflenwi.
Cafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd yn y carchar yn Llys y Goron Abertawe ar ôl ymwneud â chyflenwi'r cocên.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Thomas Richardson:
"Roedd Jay Hume yn chwarae rhan allweddol wrth gyflenwi cocên ar hyd strydoedd Abertawe a bellach mae wedi cael ei garcharu am sawl blwyddyn, gan leihau ei allu i achosi perygl i'r cyhoedd.
"O ddadansoddi negeseuon ar ffôn symudol Hume, roedd yn amlwg ei fod ef a'i gyfoedion wedi bwriadu ehangu eu gweithgaredd yn ddiweddarach eleni drwy recriwtio delwyr ychwanegol."
"Mae'r ddedfryd hon yn dangos nad yw troseddau cyffuriau yn talu – byddwch yn cael eich adnabod, eich arestio, a'ch erlyn yn unol â'r gyfraith."