Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael eu carcharu ar ôl dynwared swyddogion yr heddlu cyn cynnal bwrgleriaeth treisgar yng nghartref eu dioddefwr.
Gwnaeth Justin Lewis, 45 oed, a Matthew Pugh, 37 oed, o Aberafan, ynghyd â Leighon Weaver, 41 oed, o Bort Talbot, dargedu cyfeiriad ar Sycamore Crescent, Baglan ym mis Chwefror.
Ar ôl curo'n swnllyd ar ddrws ffrynt y cyfeiriad, gwnaeth ffrind y dioddefwr geisio galw am help drwy agor ffenestr yng nghefn yr eiddo, dim ond i weld un o'r dynion yn aros. Yna gwnaeth y dyn hwnnw fynd i mewn drwy'r ffenestr a gadael y ddau ddyn arall i mewn drwy agor y drws ffrynt.
Gwnaeth un o'r tri daro pen y dioddefwr â bricsen. Yn ffodus, dim ond mân anafiadau a gafodd y dioddefwr.
Mae'r tri dyn wedi cael eu dedfrydu i 29 mis yr un yn Llys y Goron Abertawe.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Philip Jones:
"Gwnaeth Justin Lewis, Matthew Pugh a Leighon Weaver dargedu eu dioddefwr yn ddidostur ac ymddwyn y dreisgar heb boeni dim am lesiant y dioddefwr.
"Bu'r dioddefwr yn ddewr yn amddiffyn ei gartref, ond yn y pen draw, cafodd ei drechu gan dri throseddwr. Yn ffodus, dim ond mân anafiadau a gafodd y dioddefwr, ond er hynny, mae wedi cael profiad brawychus – yn ei gartref ei hun ac yng nghanol y dydd.
"Mae'r tri diffynnydd bellach yn haeddiannol oddi ar ein strydoedd ac mae'r gymuned yn fwy diogel oherwydd hynny.”