Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu yn dilyn euogfarn am drais ac ymosodiad rhywiol.
Gwnaeth Daniel Blight, dyn 37 oed o Fonymaen, dreisio ei ddioddefwr pan oedd yn cysgu, a dim ond ar ôl i'r dioddefwr wylio deunydd fideo teledu cylch cyfyng y cartref y sylweddolodd bod hyn wedi digwydd.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i saith mlynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Elizabeth Picton:
"Manteisiodd Daniel Blight ar ei ddioddefwr pan oedd yn gwbl ddiymadferth, ond cafodd ei ddal ar gamera mewn tystiolaeth hanfodol ar gyfer ei euogfarn.
"Yma yn Heddlu De Cymru rydym yn benderfynol o fynd ar drywydd troseddwyr sy'n euog o gyflawni troseddau rhywiol ac yn sicrhau bod y dioddefwyr yn cael cyfiawnder. Mae'n cymryd dewrder mawr i ddioddefwr roi gwybod am drosedd rywiol, ac ni chaiff ymddygiad fel hyn ei oddef."
Os ydych wedi cael eich treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol, rydym yma i chi. Os ydych yn barod, gallwch roi gwybod am achos o dreisio neu ymosodiad rhywiol i ni ar-lein.
Ond os nad ydych am siarad â ni, neu os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch, mae llawer o bobl a all helpu.
Chi sy'n rheoli, a chi sy'n cael dewis pwy i siarad â nhw a pha help a gewch.
Gallwch roi gwybod am drais neu ymosodiad rhywiol yma: Riportio treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
Ceir rhagor o wybodaeth am gymorth ar gyfer dioddefwyr trais ac ymosodiad rhywiol yma: Cymorth ar gyfer treisio ac ymosodiadau rhywiol