Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r dyn a fu farw yn Nhrelái, Caerdydd, nos Sul wedi cael ei enwi'n Colin Richards, 48 oed, o Grangetown, Caerdydd.
Ymatebodd y gwasanaethau brys i adroddiadau am ddigwyddiad yn ardal Heol-y-Berllan a Heol Trelái o Gaerau ychydig cyn 11.30pm nos Sul, 7 Ebrill.
Bu farw'r tad i saith, Colin Richards, a lansiwyd ymchwiliad i'w lofruddiaeth.
Mae aelodau ei deulu, sy'n parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol, wedi rhyddhau'r deyrnged ganlynol:
“Roedd Colin yn dad, tad-cu, mab, brawd, ewythr a chefnder annwyl iawn, ac yn ddyn teuluol. Mae'n gadael saith o blant a fydd yn gweld ei eisiau'n fawr, am ei fod yn rhan fawr iawn o'u bywydau.
“Er bod y golled yn fawr, bydd grym ei gariad a'i gyfeillgarwch bob amser yn fyw. Bydd yn ein meddyliau bob amser, ac yn ein calonnau am byth.”
Mae ystafell digwyddiad wedi'i sefydlu yng Ngorsaf Heddlu Canol Caerdydd ac mae ditectifs yn apelio at unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Darren George o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr yr heddlu: "Mae ymholiadau helaeth yn parhau wrth i ni geisio cadarnhau'r digwyddiadau trasig a ddigwyddodd nos Sul. Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Mr Colin Richards.
"Mae cordonau'r heddlu yn eu lle o hyd, a hoffwn ddiolch i'r gymuned am ei chymorth a'i dealltwriaeth barhaus wrth i ni barhau â'n hymchwiliad.
"Rydym yn apelio at unrhyw un a oedd yn ardal Heol-y-Berllan a Heol Trelái o Gaerau rhwng 11pm a hanner nos, nos Sul i gysylltu â ni â gwybodaeth, ni waeth pa mor ddibwys y gall y wybodaeth honno fod ym marn yr unigolyn.”
Mae tair menyw, y mae dwy ohonynt yn 43 oed ac un yn 28 oed, a gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad.
Gellir cyflwyno gwybodaeth a deunydd ar-lein yma https://mipp.police.uk/operation/62SWP24B87-PO1
Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod: 2400112146.
Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
E-bost [email protected]
Ffoniwch 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111.