Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i farwolaeth dyn yn ardal Trelái yng Nghaerdydd.
Ymatebodd y gwasanaethau brys i adroddiadau am ddigwyddiad yn Heol-y-Berllan a Heol Trelái yng Nghaerau ychydig cyn 11.30pm nos Sul, 7 Ebrill.
Bu farw dyn 48 oed o Grangetown a lansiwyd ymchwiliad i'w lofruddiaeth.
Mae tair menyw, dwy ohonynt yn 43 oed ac un yn 28 oed, a gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad ac mae'r ymholiadau'n parhau.
Mae teulu'r dioddefwr wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf ac maent yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Darren George o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr yr heddlu: "Mae ymholiadau helaeth yn parhau yn yr ardal wrth i ni sefydlu'r digwyddiadau trasig a ddigwyddodd nos Sul.
"Mae cordonau'r heddlu yn eu lle o hyd, a hoffwn ddiolch i'r gymuned am eu cymorth a'u dealltwriaeth wrth i ni barhau â'n hymchwiliad.
"Rydym yn apelio ar unrhyw un a oedd yn Heol-y-Berllan a Heol Trelái yng Nghaerau rhwng 11.00pm a hanner nos, nos Sul i gysylltu â ni i roi gwybodaeth waeth pa mor ddibwys yw'r wybodaeth yn eu barn nhw."
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth neu ddeunydd fideo i gysylltu gan ddyfynnu'r cyfeirnod: 2400112146.
Defnydiwch https://mipp.police.uk/operation/62SWP24B87-PO1 neu:
Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
101
Gallwch hefyd gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111.