Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r heddlu yng Nghaerdydd yn ymchwilio i lofruddiaeth dyn 48 oed o ardal Grangetown yn y ddinas. Rhoddwyd gwybod i'w deulu ac maent yn cael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.
Ymatebodd y gwasanaethau brys i adroddiadau am ddigwyddiad yn ardal Heol-y-Berllan a Heol Trelái yng Nghaerau ychydig cyn 11.30pm nos Sul (Ebrill 7)
Mae tair menyw wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth. Mae menyw 28 oed o Drelái, menyw 43 oed o Gaerau a menyw 43 oed o Swydd Gaerwrangon yn y ddalfa o hyd.
Mae cordonau'r heddlu yn eu lle o hyd wrth i ymchwiliadau fynd rhagddynt.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Darren George o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru:
“Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi dechrau ac, er bod arestiadau wedi cael eu gwneud, mae'r ymchwiliad ar gam cynnar iawn. Rydym yn apelio i dystion a fyddai wedi bod yn ardal Heol-y-Berllan a Heol Trelái yng Nghaerau rhwng 11.00pm a hanner nos i gysylltu gyda gwybodaeth, waeth pa mor ddibwys yw'r wybodaeth yn eu barn nhw. Hefyd, bydd mwy o swyddogion yr heddlu yn yr ardal dros y dyddiau nesaf wrth i swyddogion wneud eu hymholiadau.”
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth neu ddeunydd fideo i gysylltu gan ddyfynnu'r cyfeirnod: 2400112146.
Defnyddiwch y Porth Cyhoeddus (mipp.police.uk)
neu
💬 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
📞 101