Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gwelwyd cerbydau heb yswiriant yn cael eu hatafaelu ar hyd 170 o filltiroedd o lonydd yr M4 gan fenter y Ganolfan Yswiriant Modur (MIB), a oedd yn gweithio ochr yn ochr â Heddluoedd De Cymru, Gwent, Avon, Gwlad yr Haf, Wiltshire a Dyffryn Tafwys.
Ar ôl cyfnod o friffio yn y bore bu swyddogion Heddlu De Cymru ar ddyletswydd ar hyd yr M4, gan ddefnyddio camerâu ANPR (System Adnabod Rhifau Ceir yn Awtomatig) a sawl uned i adnabod a stopio gyrrwyr heb yswiriant.
Dyma'r canlyniadau:
. Miloedd o blatiau cofrestru cerbydau wedi'u gwirio yn erbyn MID, cofrestr yr holl bolisïau yswiriant byw yn y DU.
. 109 o gerbydau wedi'u stopio.
. 51 o gerbydau wedi'u hatafaelu, a 5 arestiad a 7 erlyniad ar gyfer troseddau eraill
. 24 o droseddau eraill wedi'u nodi (24% o bob achos o stopio a 29% o'r rhai a atafaelwyd)
. 8 wedi'u canfod yn gyrru tra roeddent wedi'u gwahardd neu heb drwydded yrru/trwydded yrru wedi dod i ben.
. 16 heb MOT a/neu heb dreth
. 4 yn gyrru dan ddylanwad alcohol a/neu gyffuriau
. 2 gerbyd wedi'u dwyn
Bob 20 munud, caiff rhywun ei daro gan yrrwr heb yswiriant neu yrrwr sy'n taro a ffoi yn y DU. Mae hyn yn costio £53 bob blwyddyn ar gyfartaledd i fodurwyr mewn premiymau yswiriant.
Mae goblygiadau gyrru heb yswiriant yn cynnwys y canlynol:
. Gallai'r cerbyd gael ei atafaelu a'i ddinistrio.
. Hysbysiad cosb benodedig o £300
. Chwe phwynt ar drwydded
. Os bydd yr achos yn mynd i'r llys, gallech gael eich gwahardd rhag gyrru neu dderbyn dirwy ddiderfyn.